Uned iechyd meddwl Tawel Fan 'fel syrcas' medd teulu

  • Cyhoeddwyd
Glan Clwyd unit

Roedd uned iechyd meddwl yn trin yr henoed "fel syrcas", yn ôl teulu un claf fu farw ar y ward.

Wrth siarad am y tro cyntaf am y cyfnod, rhoddodd y teulu ddisgrifiad o gleifion yn crwydro'n noeth o amgylch uned Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych.

Cafodd yr uned ei chau yn 2013 a daeth adroddiad diweddarach i'r casgliad fod yna ddiwylliant o "gam-drin sefydliadol" yno.

Roedd y teulu'n siarad ar drothwy cyhoeddi adroddiad am ofal cleifion yn yr uned.

Fe fydd yr adroddiad newydd gan y Gwasanaeth Cynghori Iechyd a Gofal yn edrych ar filoedd o ddogfennau ac amgylchiadau marwolaeth 108 o gyn-gleifion dementia Tawel Fan.

Cyn y cyhoeddiad mae teulu'r cyn-glaf Joyce Dickaty wedi bod yn siarad yn gyhoeddus.

Ffynhonnell y llun, Christine Henderson
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Joyce Dickaty yn 2012 ar ward Tawel Fan

Maen nhw'n dweud iddyn nhw fod yn dystion i "anhrefn" ar y noson y bu eu mam farw ar y ward.

Roedd Ms Dickaty wedi cael ei gyrru i'r uned am asesiad yn 2012 pan oedd yn 76 oed.

Dywedodd ei merch Christine Henderson: "Pan aeth hi yno roedd hi'n gallu bod yn eitha' ymosodol ar adegau... os nad oedd hi am wneud rhywbeth, fe fyddai'n dweud wrthoch chi.

"Ond o fewn ychydig wythnosau o fod yno, doedd hi ddim yn siarad. Roedd hi jyst yn gorwedd gyda'i phen ar un ochr, yn cysgu y rhan fwyaf o'r amser."

'Fel syrcas'

Dywedodd Mrs Henderson bod cyflwr ei mam wedi dirywio ac o fewn wythnosau roedd Mrs Dickaty wedi cael ei rhoi mewn cyfundrefn gofal diwedd oes.

Cafodd y teulu alwad annisgwyl i fynd i'r ysbyty un noson. Ar y ward dywedodd un o'r staff nyrsio wrthyn nhw bod rhai o'r cleifion eraill yn eitha' swnllyd y noson honno, gan eu cynghori i gloi'r drws wrth iddyn nhw aros gyda'i mam.

Ychwanegodd Mrs Henderson: "Fe sylwon ni ar dwrw mawr y tu allan a llawer o gleifion yn chwarae yn y cyntedd. Roedd un neu ddau yn noeth... roedd gan un bar o drôns ar ei ben.

"Roedden nhw'n eistedd y tu allan i'n drws ni yn curo'r drws a cheisio dod i mewn.

"Roedd o fel syrcas a dweud y gwir."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tawel Fan yn "anhrefn" medd Christine Henderson

Bu farw Mrs Dickaty yn oriau man y bore canlynol, ond nid dyna oedd diwedd treialon y noson.

"Roedd hi'n noson hir," meddai Mrs Henderson. "Roedd ei hystafell fel storws. Roedd ei gwely hi wrth y drws ac roedd nifer o welyau eraill ar ben ei gilydd gyda chyrten drostyn nhw oedd fod i'w cuddio nhw."

Aeth y teulu at y staff nyrsio oedd ar ddyletswydd i ofyn am gyngor a chymorth, ac egluro wrthyn nhw eu bod yn meddwl bod eu mam wedi marw.

Ond dywedwyd wrth Mrs Henderson nad oedd unrhyw feddygon ar gael a bu'n rhaid i'r teulu aros wrth wely eu mam "am oriau" tan i weddill staff y ward gyrraedd ar gyfer y shifft fore.

Mae'r teulu nawr yn disgwyl am ganlyniad ymchwiliad CCIG, ond maen nhw eisoes wedi dweud nad oes ganddyn nhw fawr o ffydd yn y broses gyfan.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Phillip Dickaty fod y teulu'n dal i alaru

"Pan mae pobl yn cael profedigaeth, maen nhw'n galaru. Ry'n ni wedi bod yn galaru am chwe blynedd ac mae'r broses yn parhau," meddai mab Joyce Dickaty, Phillip.

"Ry'n ni am gael atebion - dydyn ni erioed wedi cael atebion.

"Ond hyd yn oed os gawn ni atebion i'r ddau adroddiad... tri adroddiad... gyda'r ffordd y maen nhw (y Bwrdd Iechyd) wedi bod, does dim gobaith, dim ffydd y bydd yr atebion yn rhai cywir.

"Fydd gyda ni ddim hyder yn y bwrdd, fydd gyda ni ddim hyder yn y canfyddiadau."

Dywedodd swyddogion ar ran y bwrdd iechyd y byddan nhw'n ymateb i adroddiad CCIG a phryderon y teuluoedd pan fydd yr adroddiad o'r ymchwiliad yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau.