Teuluoedd Tawel Fan 'wedi eu gwylltio a'u llorio'

  • Cyhoeddwyd
Teuluoedd Tawel Fan
Disgrifiad o’r llun,

Bu rhai o berthnasau cyn-gleifion Tawel Fan yn siarad gyda newyddiadurwyr wedi cyhoeddiad yr adroddiad

Mae rhai o berthnasau cyn-gleifion ward seiciatryddol yn Ysbyty Glan Clwyd yn dweud bod casgliadau'r adroddiad diweddaraf i honiadau o gam-drin wedi eu "gwylltio a'u llorio".

Roedden nhw'n ymateb ar ôl i banel annibynnol HASCAS (Health and Social Care Advisory Service) ddod i'r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth o gam-drin sefydliadol yn ward Tawel Fan.

Roedd y casgliad hwnnw'n groes i farn ymchwiliad arall yn 2015 ddywedodd bod amodau ar y ward yn debyg i "ymweld â sŵ".

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn canfyddiadau adroddiad HASCAS ac yn sefydlu tasglu i weithredu'r argymhellion "ar fyrder".

Linebreak

Beth oedd yr ymchwiliad?

Roedd yr ymchwiliad diweddaraf wedi edrych ar amgylchiadau 108 o gyn-gleifion ers 2007 gan archwilio miloedd o ddogfennau.

Fe glywodd y panel am bryderon cyffredinol o safbwynt gofal a thriniaeth, gan gynnwys materion fel diagnosis a meddyginiaethau, ond dim ond 18 o deuluoedd oedd wedi gwneud honiadau uniongyrchol o gamdriniaeth neu esgeulustra.

Roedd yr honiadau hynny'n cynnwys cleisiau anesboniadwy, cleifion mewn cyflwr budur, a chleifion yn cael eu hanwybyddu. yn ogystal â chwynion fod staff yn gweiddi neu'n anghwrtais.

Ond roedd 31 o deuluoedd wedi "datgan yn glir nad oedden nhw na'u hanwyliaid wedi profi unrhywbeth fel hyn ar ward Tawel Fan".

Roedd y teuluoedd yma'n mynnu bod aelodau staff wastad yn garedig, a bod y cleifion yn lân ac yn cael eu trin yn ofalus a gyda pharch.

Linebreak

'Ble mae'r atebolrwydd?'

Yn ymateb wedi cyhoeddi'r adroddiad ddydd Iau, dywedodd rhai perthnasau fod y canlyniadau wedi eu "llorio a'u gwylltio".

Wrth drafod y tu allan i'r cyfarfod, cafodd y broses ei ddisgrifio gan deuluoedd fel un "cwbl ddi-drefn" sy'n ceisio "cuddio'r gwir".

Dywedodd John Stewart, un o'r perthnasau: "Mae HASCAS wedi anwybyddu'r dystiolaeth feddygol a gafodd ei gyflwyno gan y teuluoedd."

Pethnasau'n cael ue hatal rhag mynd ymuno â chynhadledd newyddion
Disgrifiad o’r llun,

Mae perthnasau'n flin na chawson nhw ymuno â chynhadledd newyddion

Mae Ann Jones, gwraig i un fu'n glaf yn Nhawel Fan, yn credu mai'r "unig beth cadarnhaol am yr adroddiad oedd y ffaith ei fod yn derbyn bod methiannau systematig wedi bod gan reolwyr".

Ychwanegodd Ms Jones: "Mae rhai o'r rheolwyr dal i gael eu cyflogi gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac mae rhai wedi codi i swyddi uwch. Ble mae'r atebolrwydd?"

Cafodd teuluoedd cyn-gleifion glywed casgliadau'r adroddiad cyn y cyhoeddiad swyddogol am 11:00, ond chawson nhw ddim caniatâd i ymuno â chynhadledd newyddion - penderfyniad "hollol warthus" yn ôl rhai o'r perthnasau.

Roedd yna bresenoldeb heddlu ar un adeg y tu allan i'r adeilad yn Y Rhyl lle roedd casgliadau'r ymchwiliad yn cael eu cyhoeddi.

Dywedodd y perthnasau wrth y BBC nad oedden nhw'n siŵr beth fydd eu cam nesaf.

Dywedodd Gary Doherty, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, eu bod yn "derbyn darganfyddiadau'r adroddiad ac yn sefydlu tasglu ar unwaith... i symud yr argymhellion ymlaen ar fyrder".

Ychwanegodd y bydd argymhellion yr adroddiad yn "arwain ac yn llywio ein gwaith i ddarparu gwelliannau ar draws ein gwasanaethau i gyd".