Gofal plant am ddim yn 'rhy ychydig, rhy hwyr'

  • Cyhoeddwyd
Anna Whitehouse
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anna Whitehouse bod mamau "allan o'r gweithlu" erbyn i'w plant droi'n dair oed

Mae cynnig o 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed yn "rhy ychydig, rhy hwyr", yn ôl ymgyrchydd.

Yn ôl Anna Whitehouse mae mamau yn hytrach angen help i gael yn ôl i'r gwaith yn syth ar ôl cyfnod mamolaeth.

Dywedodd wrth ACau, erbyn i blant droi'n dair oed, mae eu mamau "allan o'r gweithlu'n barod".

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae teuluoedd sy'n cymryd rhan mewn cynlluniau peilot wedi dweud eu bod yn ei gwneud yn haws iddyn nhw weithio.

Mae Ms Whitehouse - sylfaenydd blog Mother Pukka - yn ymgyrchu am amodau gweithio hyblyg fel ffordd i gael gwared ar anffafriaeth yn y gweithle.

Ffynhonnell y llun, PA

Dywedodd wrth bwyllgor cydraddoldeb y Cynulliad ddydd Iau nad yw cynnig gofal plant y llywodraeth yn mynd i'r afael â phroblem allweddol wrth geisio cefnogi rhieni ar ôl cyfnod mamolaeth.

"Rydych chi angen y gefnogaeth yn gynt, pan yn dychwelyd i'r gwaith," meddai.

"Pan mae'r plentyn yn dair oed, yr adborth rydyn ni wedi'i gael yw 'mae'n rhy hwyr - rydw i allan o'r gweithlu'n barod'.

"Roedd yn syniad hyfryd, gwych, ond mae'n rhy ychydig, rhy hwyr."

'Arloesol ac uchelgeisiol'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i ddarparu gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio a rhieni sydd eisiau dychwelyd i'r gwaith".

"Ym mis Medi 2017 fe ddechreuon ni beilota ein cynnig gofal plant arloesol ac uchelgeisiol," meddai llefarydd.

"Mae'r adborth wnaethon ni dderbyn gan rieni ledled Cymru yn dangos ei fod eisoes yn lleihau'r straen ar incwm teuluoedd a sicrhau nad yw gofal plant yn rhwystr iddyn nhw ddechrau gweithio neu gynyddu eu horiau."