Dydd y farn i obeithion Caerdydd o ddyrchafiad
- Cyhoeddwyd
Bydd Caerdydd yn wynebu Reading brynhawn Sul gan wybod y bydd buddugoliaeth yn sicrhau fod y clwb yn cael dyrchafiad i'r Uwch-Gynghrair.
Dyma fyddai'r eildro yn unig ers 1962 i'r Adar Gleision chwarae ym mhrif gynghrair pêl-droed Lloegr, a hynny wedi iddyn nhw dreulio tymor yno yn 2013/14.
Er mwyn sicrhau'r ail safle yn y Bencampwriaeth mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau nad yw Fulham, fydd yn herio Birmingham ar yr un pryd â gêm Caerdydd, yn cael canlyniad gwell na nhw.
Mae Neil Warnock, 69, yn ceisio sicrhau dyrchafiad am yr wythfed tro yn ei yrfa fel rheolwr, a hynny ar ôl cael ei benodi gan Gaerdydd yn 2016 i olynu Paul Trollope.
'Dyrchafiad Caerdydd yn goron ar y cyfan'
Ond mae wedi dweud y byddai sicrhau lle yn yr Uwch-Gynghrair gyda Chaerdydd yn coroni unrhyw lwyddiannau eraill yn ei yrfa.
"Mae llawer o bobl yn edrych ar beth sydd gennym ni a beth 'dyn ni wedi'i wario o'i gymharu, ac mae'n stori hynod a dweud y gwir," meddai.
Pan wnaeth Caerdydd sicrhau dyrchafiad yn 2013 fe wnaeth y perchennog Vincent Tan roi arian mawr i'r rheolwr Malky Mackay ac yna Ole Gunnar Solskjaer i wario ar chwaraewyr newydd.
Ond roedd yn dymor siomedig i'r Adar Gleision wrth iddyn nhw orffen ar waelod y tabl a disgyn yn syth nôl i'r Bencampwriaeth, gyda chefnogwyr hefyd yn anhapus fod Tan wedi newid lliw cit y tîm i goch.
Ers hynny mae'r clwb wedi bod yn rhedeg ar gyllideb dynnach, gyda'r rhan fwyaf o'r chwaraewyr y mae Warnock wedi eu denu i'r clwb wedi cael eu arwyddo am ddim.
Serch hynny mae'r tîm wedi bod yn agos at frig y tabl drwy'r tymor, ac yn dilyn eu buddugoliaeth dros Hull y penwythnos diwethaf maen nhw bellach un gêm i ffwrdd o ddychwelyd i'r brif adran.
Hwb ariannol
Reading fydd y gwrthwynebwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul - mae nhw yn rhif 19 a dal ddim yn saff o'u lle nhw yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.
Mae Fulham, sydd bwynt y tu ôl i Gaerdydd ond â gwahaniaeth goliau gwell, yn herio Birmingham sy'n 20fed.
Felly i chwarae yn yr Uwch-gynghrair y tymor nesaf bydd yn rhaid i'r Adar Gleision gael buddugoliaeth yn erbyn Reading neu gael yr un canlyniad â Fulham.
Yn ôl un arbenigwr busnes, fe allai economi Caerdydd elwa o o leia 75 miliwn o bunnau, petai'r Adar Gleision yn sicrhau dyrchafiad.
Fe fyddai gwerthu mwy o docynnau ar gyfer gemau, medd yr Athro Tom Cannon o Brifysgol Lerpwl, a'r ffaith y byddai rhagor o ymwelwyr yn treulio'u penwythnosau yn y brifddinas, yn hwb ariannol sylweddol i fusnesau.
Bydd modd dilyn y diweddaraf ar lif byw arbennig Cymru Fyw
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2018