Sefydliad Iechyd y Byd yn ymddiheuro am ffigyrau anghywir

  • Cyhoeddwyd
Port Talbot

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi ymddiheuro am ryddhau ffigyrau anghywir ynglŷn â lefelau llygredd aer Port Talbot.

Roedd y ffigyrau yn nodi fod gan Bort Talbot 18 microgram o lygredd ym mhob metr ciwb o'r aer, ffigwr sydd nawr wedi ei newid i 10 microgram.

Mae'r sefydliad wedi ymddiheuro i Gyngor Castell-nedd Port Talbot am y camgymeriad, ac wedi cadarnhau fod yr holl ddata wedi ei newid ar eu gwefannau.

Yn ôl y ffigyrau anghywir, Port Talbot oedd y dref fwyaf llygredig y DU, ond mae'r sefydliad bellach wedi cadarnhau bod o leiaf 31 lle arall sydd â chyfradd gwaeth.