Cwpan Cymru: Aberystwyth 1-4 Cei Connah
- Cyhoeddwyd
Cei Connah sydd wedi cipio Cwpan JD Cymru 2018 a hynny wedi iddyn nhw drechu Aberystwyth o bedair gôl i un.
Cafodd y gêm ei chynnal ym Mharc Latham, Y Drenewydd.
Michael Bakare a sgoriodd y gôl gyntaf i Gei Connah ac y mae e wedi sgorio i'w dîm ym mhob rownd o'r Cwpan.
Yn fuan wedyn dyblwyd y fantais i Gei Connah wedi i Michael Wilde roi'r bêl drwy'r rhwyd ac ar ôl 39 munud fe sicrhaodd Michael Wilde gôl arall gan ddod â'r sgôr i 0-3.
Ond roedd yna rywfaint o achubiaeth i Aberystwyth cyn diwedd yr hanner cyntaf wedi i Ryan Wade sgorio ac felly y sgôr ar yr hanner oedd 1-3.
Bu bron i Aberystwyth sgorio eilwaith ond fe darodd cic Malcolm Melvin y trawst a doedd y bêl ddim dros y llinell.
Ar ddiwedd y gêm roedd yna gôl arall i Gei Connah gan Andy Owens a dyna sicrhau fuddugoliaeth ysgubol iddyn nhw.
Y sgôr ar ddiwedd y gêm felly oedd Aberystwyth 1, Cei Connah 4.
Ennill y Cwpan am y tro cyntaf
Roedd hi'n ddiwrnod hanesyddol i Gei Connah wrth iddyn nhw ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf erioed.
Fe ddenodd y gêm dorf o gefnogwyr - yn eu plith Elin Jones AC a Ben Lake AS ac hefyd roedd Jack Sargeant, aelod cynulliad Alyn a Dyfrdwy yn bresennol.
Hwn oedd y pumed tro i'r Drenewydd gynnal y gêm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2018