Y Drenewydd i gynnal ffeinal Cwpan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cwpan CymruFfynhonnell y llun, Cymdeithas Pêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gic gynta yn rownd derfynol Cwpan JD Cymru am 14:45 ar ddydd Sul 6 Mai

Fe fydd rownd derfynol Cwpan Cymru 2018, rhwng Aberystwyth a Chei Connah, yn cael ei chynnal ym Mharc Latham, Y Drenewydd ar ddydd Sul, 6 Mai.

Fe lwyddodd Aberystwyth i sicrhau eu lle yn y rownd derfynol ar ôl curo'r Drenewydd dydd Sul diwethaf, a Chei Connah yn trechu Bangor ddydd Sadwrn.

Bydd hanes yn cael ei greu naill ffordd neu'r llall ar y diwrnod wrth i glwb Aberystwyth geisio codi'r cwpan am y tro cyntaf ers 118 o flynyddoedd, a Chei Connah'n ceisio ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf erioed.

Dyma'r pumed tro i'r Drenewydd gynnal y gêm, fydd yn cychwyn am 14:45.