Caerdydd yn sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd ReadingFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Caerdydd wedi sicrhau eu lle yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf, wedi gêm gyfartal yn erbyn Reading.

Di-sgôr oedd hi ar y chwiban olaf yn Stadiwm Caerdydd, ond gan fod Fulham wedi colli o 3-1 yn erbyn Birmingham, mae'r Adar Gleision wedi gorffen y tymor yn ail safle'r Bencampwriaeth, gan sicrhau dyrchafiad otomatig.

Fe fydd Caerdydd yn wynebu cewri Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf felly, a hynny am y tro cyntaf ers 2014.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Carl Roberts

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Carl Roberts

Roedd y stadiwm yn orlawn ar gyfer gêm ola'r tymor, gyda 32,478 o docynnau wedi eu gwerthu, ac roedd yna ymddangosiad prin gan berchennog y clwb, Vincent Tan.

Fe ddaeth sawl cyfle i Gaerdydd i fynd ar y blaen yn ystod y gêm, gydag ergydion gan Kenneth Zahore a Junior Hoilett, ond roedd amddiffyn cadarn Reading yn ormod.

Tra'n gwylio'r chwarae, roedd cefnogwyr yr Adar Gleision hefyd yn cadw llygad barcud ar y digwyddiadau ar gae St Andrew lle roedd Fulham yn gobeithio trechu Birmingham a disodli Caerdydd yn ail safle'r Bencampwriaeth.

Ond nid felly y bu hi, wrth i Birmingham sicrhau buddugoliaeth brin a chadw'i lle yn y Bencampwriaeth.

'Uchafbwynt fy ngyrfa'

Fe fydd llawer o'r diolch am berfformiad y tymor yn mynd i'r rheolwr Neil Warnock. Dyma'r wythfed dyrchafiad iddo ef ei sicrhau yn ei yrfa fel rheolwr.

Ers 2002, mae Caerdydd wedi methu â sicrhau dyrchafiad drwy'r gemau ail-gyfle bedair gwaith - tair o'r rheiny o fewn yr wyth mlynedd ddiwethaf.

Wedi'r gêm, dywedodd Warnock: "Dyma'r uchafbwynt i mi yn fy ngyrfa o 38 mlynedd."

"Mae gen i griw gwych o fechgyn. Rydyn ni wedi cyflawni camp enfawr, oherwydd doedd neb yn credu fod gyda ni gyfle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae'n anhygoel. Dwi wedi gweld ambell i ddyrchafiad a sgwad gwych, ond oherwydd yr amgylchiadau yr es i fewn iddyn nhw - yn ail o'r gwaelod - rydyn ni wedi adeiladu ar hynny yr holl ffordd.

"Dwi ddim yn cofio wythnos fel hon. Dydw i ddim wedi cysgu fwy na thair awr.

"Mae'n deimlad anhygoel i reolwr wybod mai chi ddaeth â phethau at ei gilydd."