Dyrchafiad Caerdydd: Trafod cynnal dathliad swyddogol
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud bod trafodaethau ar y gweill ynghylch cynnal dathliad swyddogol ar ôl i dîm pêl-droed y ddinas sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.
Mae'r cyngor yn trafod y posibilrwydd gyda swyddogion y clwb ac mae disgwyl cyhoeddiad o fewn y dyddiau nesaf
Roedd pwynt wedi gêm ddi-sgôr yn erbyn Reading ddydd Sul yn ddigon i sicrhau bod yr Adar Gleision yn gorffen y tymor yn ail safle'r Bencampwriaeth, ac felly'n cael dyrchafiad otomatig.
Mae un arbenigwr busnes yn darogan y gallai hynny arwain at hwb gwerth o leiaf £75m i'r economi leol.
Y disgwyl yw y bydd mwy o bobl yn mynd i wylio Caerdydd yn chwarae gan olygu bod mwy yn gwario ym musnesau'r ardal, yn enwedig yng ngorllewin y brifddinas.
Mae Stadiwm Dinas Caerdydd â lle ar gyfer 33,280 o bobl, ond 19,604 oedd y nifer ar gyfartaledd yn ystod 22 gêm gyntaf tymor 2017-2018.
Mae potensial felly y gallai gemau cartref y tymor nesaf ddenu dros 10,000 yn rhagor o gefnogwyr.
Dywedodd Yr Athro Emeritws Tom Cannon o Ysgol Reolaeth Prifysgol Lerpwl: "Effaith amlycaf y dyrchafiad ei hun yw'r refeniw i'r clwb - yn y tymor cyntaf mae hynny'n o gwmpas £100m net o gytundebau teledu.
"Mae'r rhan fwyaf yn mynd i'r chwaraewyr, ond maen nhw'n gwario'r rhan fwyaf yn lleol.
"O ran gwariant gan ymwelwyr ac ati, fe allwch ychwanegu £25m, efallai.
"O ran incwm ychwanegol - yr elfen anoddaf i'w hamcangyfrif - mae'n debygol o fod yn £25-50m."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2018