Cyhoeddi carfan rygbi Cymru ar gyfer taith yr haf
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi carfan o 31 i gynrychioli tîm rygbi Cymru ar eu taith haf.
Mae'r garfan yn cynnwys un chwaraewr - Tomos Williams, mewnwr y Gleision - sydd heb ennill cap eto.
Bydd y garfan yn cwrdd pan fydd y tymor presennol ar ben, cyn teithio i Washington DC yn yr UDA i herio De Affrica ar 2 Mehefin.
Fe fyddan nhw wedyn yn teithio ymlaen i Dde America ar gyfer dwy gêm brawf yn erbyn yr Ariannin ar 9 a 16 Mehefin.
Cyhoeddodd Gatland y bydd dau chwaraewr yn gyd-gapteniaid ar y garfan, sef Cory Hill o'r Dreigiau ac Ellis Jenkins o'r Gleision.
Mae nifer o enwau cyfarwydd ar goll, gan gynnwys Alun Wyn Jones, Leigh Halfpenny a Dan Biggar.
'Magu profiad'
Wrth gyhoeddi'r garfan dywedodd Warren Gatland: "Mae'r haf yn gyfle gwych i'r garfan fagu profiad yn erbyn gwrthwynebwyr o hemisffer y de.
"Ry'n ni wedi dewis carfan o 31 er mwyn rhoi cymaint o amser â phosib ar y cae i'r chwaraewyr.
"Mae'n dangos dyfnder y blynyddoedd diwethaf mai dim ond un chwaraewr heb gap sydd yn y garfan, ond mae Tomos wedi bod mewn sawl carfan ac felly'n gyfarwydd â'r awyrgylch.
"Mae Cory ac Ellis yn gyd-gapteniaid gan eu bod ill dau yn arweinwyr.
"Mae'r haf yn gam arall ar ein taith i Gwpan y Byd 2019, ac yn gyfle i adeiladu ar gystadlaethau diweddar."
Y garfan yn llawn:
Blaenwyr: Rob Evans (Scarlets); Wyn Jones (Scarlets); Nicky Smith (Gweilch); Elliot Dee (Dreigiau); Ryan Elias (Scarlets); Tomas Francis (Caerwysg); Samson Lee (Scarlets); Dillon Lewis (Gleision); Adam Beard (Gweilch); Bradley Davies (Gweilch); Seb Davies (Gleision); Luke Charteris (Caerfaddon); Cory Hill (Dreigiau, cyd-gapten); James Davies (Scarlets); Ellis Jenkins (Gleision, cyd-gapten); Ross Moriarty (Caerloyw); Josh Navidi (Gleision); Aaron Shingler (Scarlets).
Olwyr: Aled Davies (Scarlets); Gareth Davies (Scarlets); Tomos Williams (Gleision); Gareth Anscombe (Gleision); Rhys Patchell (Scarlets); Hadleigh Parkes (Scarlets); Owen Watkin (Gweilch); Scott Williams (Scarlets); Josh Adams (Caerwrangon); Hallam Amos (Dreigiau); Steff Evans (Scarlets); George North (Northampton); Tom Prydie (Scarlets).