M4: 'Gadewch i brif weinidog nesaf Cymru benderfynu'

  • Cyhoeddwyd
M4

Dylai'r penderfyniad olaf ar ffordd liniaru'r M4 gael ei wneud gan olynydd Carwyn Jones, yn ôl cadeirydd pwyllgor amgylchedd y Cynulliad.

Dywedodd y prif weinidog wrth Aelodau Cynulliad fis diwethaf mae fe fyddai'n gwneud y penderfyniad ar y cynllun i adeiladu rhan newydd i'r draffordd.

Ond yn ôl yr aelod Llafur, Mike Hedges, y prif weinidog newydd ddylai benderfynu yn hytrach na Mr Jones.

Mae disgwyl y bydd canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi ddiwedd yr haf.

'Cyfrifoldeb'

Fe fydd ACau'n cael pleidleisio ar y pwnc, ond nid yw'n glir eto a fydd rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar y canlyniad.

Mae'r gweinidogion yn ffafrio'r "llwybr du" - ffordd newydd 15 milltir o hyd i'r de o Gasnewydd allai gostio £1.4bn.

Fe wnaeth yr ymchwiliad cyhoeddus hefyd edrych ar opsiynau eraill, gan gynnwys rhai rhatach.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Carwyn Jones y bydd yn rhoi'r gorau iddi fel prif weinidog ym mis Rhagfyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Jones wedi dweud mai ef fydd yn gwneud y penderfyniad ar ffordd newydd yr M4

Dywedodd wrth ACau: "Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi lleisio barn gref dros unrhyw lwybr, ac allai ddim gwneud, oherwydd fi fydd yr un fydd yn cymryd y penderfyniad terfynol."

Ond dywedodd Mr Hedges: "Fe fydde' chi'n disgwyl i benderfyniad mawr gael ei wneud gan y prif weinidog newydd, yn hytrach nag un sydd ar fin rhoi'r gorau iddi.

"Rwy'n credu y byddai budd mewn rhoi'r cyfrifoldeb i'r prif weinidog newydd.

"Dyna fyddai'r eitem gyntaf i'w drafod. Neu fe alle' chi gael sefyllfa lle mae'r prif weinidog yn gefnogol, a'r prif weinidog newydd yn gwrthwynebu."

Oedi?

Ar y llaw arall dywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies: "Yn fy marn i, yr elfen bwysicaf yw sicrhau fod 'na barhad esmwyth yn y cyfnod, yw ein bod ni'n parhau i lywodraethu.

"A dyma dwi'n disgwyl i Carwyn Jones ei wneud. Fe fyddai gwneud unrhyw beth arall yn tanseilio ei safle gan ein hatal ni rhag cymryd unrhyw benderfyniadau anodd tan fis Ionawr, rhywbeth fyddai'n gamgymeriad."

Mae ACau wedi cael clywed y bydd pleidlais ar y pwnc yn hwyrach eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mike Hedges mai'r prif weinidog newydd ddylai gael y gair olaf

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fod gweinidogion yn trafod gyda chyfreithwyr ynglŷn â ffurf ac amseru'r ddadl.

Os yw'r llwybr du yn cael ei argymell gan yr ymchwiliad cyhoeddus, mae'n bosib y gallai her gyfreithiol achosi rhagor o oedi.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford, yr unig un hyd yn hyn sydd wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll yn y ras i olynu Carwyn Jones, y byddai opsiwn rhatach yn un "ddeniadol".