Tata: Gwaith dur trydanol Cogent yng Nghasnewydd ar werth

  • Cyhoeddwyd
Cogent

Mae cwmni dur Tata wedi cyhoeddi bod ei waith dur trydanol yng Nghasnewydd ar werth.

Ar hyn o bryd, mae 350 o weithwyr yn cael eu cyflogi ar safle Cogent yn y ddinas.

Mae Tata'n dweud ei fod yn werthwr cyfrifol, a bydd y penderfyniad yn caniatáu i'r cwmni ganolbwyntio ar y busnes craidd o gynhyrchu ar gyfer y diwydiannau ceir, adeiladu, peirianneg a phecynnu.

Dywedodd undeb y gweithwyr dur, Community, nad yw eto wedi ei argyhoeddi mai gwerthu yw'r cam gorau.

Mae Cogent yn un o bump adran o eiddo Tata sydd ar werth.

Mae'r lleill wedi eu lleoli yn nghanolbarth Lloegr, Yr Almaen, Canada, Sweden a Thwrci, gyda chyfanswm o 1,100 yn cael eu cyflogi yno.

Mae dur trydanol yn cael ei ddefnyddio mewn moduron a thrawsnewidwyr i alluogi cludo trydan mewn un cyfeiriad yn hytrach na dau.

Fe allai'r cwmnïoedd, yn cynnwys Cogent, fod yn ddeniadol i brynwyr ohewrydd y cynnyrch ansawdd uchel sy'n cael ei gynhyrchu.

Disgrifiad o’r llun,

Does dim disgwyl i'r gwerthiant effeithio ar weithfeydd eraill Tata, fel Port Talbot

Dywedodd Liberty Steel, sydd â gwaith yng Nghasnewydd, wrth BBC Cymru y gallai fod â diddordeb yn Cogent a'r safleoedd eraill sydd ar werth gan Tata.

"Mi fydden i wastad â diddordeb edrych ar asedau allai weddu â'n strategaeth dur gwyrdd i gynhyrchu dur cynaliadwy yn y DU," dywedodd llefarydd ar ran Liberty.

Er nad oes lle i gredu fod yna drafodaethau rhwng Tata a Liberty ar y posiblrwydd o brynu hyd yma, mae Liberty wedi prynu tua 10 o weithfeydd dur Tata yn y DU yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Fodd bynnag, mae'n creu mwy o ansicrwydd i weithwyr Tata yn Cogent, wedi i'r cwmni geisio gwerthu ei holl fusnes yn y DU, cyn rhoi'r gorau i'r cynlluniau.

Mae Tata mewn trafodaethau gyda'r cwmni Almaenig, Thyseenkrupp, ar gynllunio i uno'u gwaith dur yn Ewrop.

Does dim lle i gredu fod gan y gyhoeddiad diweddaraf ddim i'w wneud â hynny.

Ni fydd hyn yn effeithio ar safleoedd eraill Tata yng Nghymru, gan gynnwys Port Talbot, Shotton, Trostre a'i safle arall yng Nghasnewydd.