Gweithwyr Tata 'wedi'u hecsbloetio a'u hesgeuluso'
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr a chyn-weithwyr Tata wedi cael eu "hecsbloetio" a'u "hesgeuluso" gyda'u pensiynau, yn ôl pwyllgor o ASau.
Dywedodd Pwyllgor Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU bod cynghorwyr ariannol wedi cymryd mantais o aelodau, ac nad yw Tata, Llywodraeth y DU a'r Rheolydd Pensiynau wedi gwneud digon i'w helpu.
Yn ymateb, dywedodd y Rheolydd Pensiynau y byddai'n parhau i weithio i amddiffyn gweithwyr.
Mae BBC Cymru wedi gwneud cais am sylw gan Lywodraeth y DU.
£14bn o bensiynau
Cafodd Cynllun Pensiynau Dur Prydain ei gau wedi i reoleiddwyr dderbyn y byddai Tata yn mynd i'r wal pe bai'n parhau i'w noddi.
Roedd wedi ymrwymo i dalu gwerth £14bn o bensiynau i 124,000 o aelodau.
Mae tua 8,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan Tata yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys 3,500 ym Mhort Talbot.
Roedd yn rhaid i weithwyr a chyn-weithwyr ar draws y DU benderfynu beth i'w wneud gyda'u pensiynau ar ôl i Tata adael y cynllun ym mis Medi.
Rhwng Hydref a Rhagfyr 2017 roedd gan aelodau'r dewis i ymuno â chynllun newydd sy'n cael i gefnogi gan Tata, BSPS2, neu'r Gronfa Diogelu Pensiwn.
Roedd y ddau yn llai hael na'r cynllun blaenorol, ond BSPS2 oedd y cynllun gorau o'r ddau i'r mwyafrif o aelodau.
Yn ôl y pwyllgor o ASau, fe wnaeth hyn "greu amgylchiadau perffaith i bobl gymryd mantais".
'Truenus o annigonol'
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Frank Field, y dylai'r Rheolydd Pensiynau "fod wedi gweld y twyll yma'n dod".
"Mae'n rhaid i'r holl awdurdodau sy'n gyfrifol weithredu nawr, i atal rhagor o bobl rhag cael eu twyllo," meddai.
Dywedodd un gweithiwr Tata wrth BBC Cymru ei fod wedi colli bron i £200,000 wrth adael Cynllun Pensiynau Dur Prydain ar ôl derbyn cyngor ariannol annibynnol.
Dywedodd yr adroddiad bod Tata, Llywodraeth y DU a'r Rheolydd Pensiynau wedi esgeuluso aelodau'r cynllun pensiwn.
Ychwanegodd yr ASau bod cynllun cyfathrebu gafodd ei roi baratoi gan Gynllun Pensiynau Dur Prydain yn "druenus o annigonol", ac nad oedd yn darparu gwybodaeth sylfaenol i helpu aelodau i wneud penderfyniad.
Yn ôl yr adroddiad, cyfrifoldeb y Rheolydd Pensiynau oedd sicrhau bod aelodau'n deall yr opsiynau, ond roedd "hyn oll wedi methu".
Mae'r rheoleiddiwr cynghorwyr ariannol, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, hefyd yn wynebu beirniadaeth am y ffordd y gwnaethon nhw ddelio â chwynion am gyngor gwael.
Yr ymateb i'r adroddiad
Dywedodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ei fod yn adolygu'r rheolau ar roi cyngor i weithwyr a chyn-weithwyr am drosglwyddo eu pensiynau.
Dywedodd y Rheolydd Pensiynau ei fod wedi cyflawni ei brif rôl o bwyso a mesur a chymeradwyo ailstrwythuro'r cynllun.
Ychwanegon nhw eu bod wedi gwneud y sefyllfa yn un mwy sicr i filoedd o aelodau'r cynllun pensiwn.
Dywedodd Tata bod y broses ymgynghori wedi bod yn un drwyadl, oedd yn cynnwys "manylion ariannol cymhleth".
Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn falch bod cymaint o aelodau wedi gwneud y penderfyniad positif i ddewis y cynllun gorau ar gyfer eu dyfodol.
Dywedodd Cynllun Pensiynau Dur Prydain eu bod yn croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod aelodau'n gwneud penderfyniad "ar sail cyngor priodol".
Ond ychwanegodd bod ymddygiad rhai cynghorwyr ariannol yn "destun pryder i bawb sy'n gysylltiedig â'r sefyllfa".
Dywedodd llefarydd ar ran yr undebau dur bod "tystiolaeth glir o'r adroddiad yma bod rhai gweithwyr dur wedi cael eu hecsbloetio ac wedi derbyn cyngor gwael ar benderfyniadau eithriadol o bwysig".
"Mae angen i reoleiddwyr fod yn fwy llym a mynd i'r afael â chynghorwyr ariannol anghyfrifol a rhybuddio pobl am ba gwmnïau i'w hosgoi," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2017