'Angen gwneud mwy' i daclo twyll o fewn y GIG
- Cyhoeddwyd
Does dim digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael â thwyll o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn ôl cyn-brif weithredwr gwasanaeth atal twyll.
Mae esiamplau o dwyll yn gallu cynnwys meddygon a deintyddion yn hawlio arian am waith sydd heb ei wneud, neu hyd yn oed greu cleifion ffug.
Yn 2016/17, fe wnaeth Gwasanaeth Gwrth Dwyll y GIG yng Nghymru adennill ychydig llai na £350,000.
Dywedodd y gwasanaeth iechyd bod ymchwilwyr yng Nghymru wedi adfer cyfanswm o dros £7m ers 2001.
'Dim digon o staff'
Dywedodd Jim Gee, cyn-brif weithredwr Gwasanaeth Gwrth Dwyll y GIG nad oes digon o arbenigwyr ymchwilio o fewn y maes yma yng Nghymru.
Mae esiamplau o dwyll o fewn y GIG yng Nghymru'n cynnwys y gynecolegydd Anthony Madu, gafodd orchymyn i ad-dalu £70,000 ar ôl iddo barhau i weithio fel meddyg locwm mewn ysbytai ar ôl iddo gael ei wahardd.
Enghraifft arall yw'r deintydd Jochemus Venter o Landrindod, wnaeth hawlio £48,000 am driniaeth oedd heb ei wneud.
Mae gan Gymru dair lefel o wasanaeth gwrth dwyll: arbenigwyr lleol ym mhob bwrdd iechyd, gwasanaeth canolog a'r posibilrwydd o ddefnyddio arbenigwr o'r GIG yn Lloegr.
Mae chwe ymchwiliwr profiadol yng Nghymru ac 20 o arbenigwyr eraill yn gweithio o fewn y byrddau iechyd unigol.
Ond dyw Mr Gee ddim yn credu bod hyn yn ddigon.
"Dydw i ddim yn meddwl bod y cyhoedd yn deall cyn lleied sy'n cael ei wario ar ddiogelu'r GIG rhag camdriniaeth o'r math yma," meddai.
"Rwy'n meddwl y byddan nhw'n cael sioc pe byddan nhw'n clywed faint o adnoddau sy'n gweithio arno."
'Gwaith o safon uchel'
Ers ei sefydlu yn 2001 mae Gwasanaeth Gwrth Dwyll y GIG yng Nghymru wedi adennill cyfanswm o dros £7m.
Mae'r Ganolfan Astudiaethau Gwrth Dwyll - canolfan ymchwil arbenigol ym Mhrifysgol Portsmouth - yn amcangyfrif y gallai'r GIG Cymru fod ar ei cholled o rhwng £175m a £200m y flwyddyn o ganlyniad i dwyll.
Dywedodd GIG Cymru nad yw'n cydnabod y ffigyrau sydd wedi'u cyflwyno ar gyfer colledion posib.
Ychwanegodd bod buddsoddiad wedi bod mewn ymchwilwyr, a bod arolwg mewnol annibynnol wedi canmol "safon uchel y gwaith gwrth dwyll yn GIG Cymru".
"Dyw'r gwasanaeth ddim yn goddef unrhyw droseddau economaidd," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2015