Ydy Cymry sy'n cwyno am 'hiliaeth' yn rhagrithiol?

  • Cyhoeddwyd
Nia Edwards-BehiFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r syniad bod Cymry Cymraeg yn cael eu "herlyn yn benodol ac yn arbennig" yn "bell o'r gwirionedd" meddai Nia Edwards-Behi

Ble mae'r Cymry sy'n cwyno am sylwadau a gweithredoedd gwrth-Gymreig pan y daw hi at leiafrifoedd eraill yn ein cymdeithas?

Dyna'r cwestiwn mae Nia Edwards-Behi wedi ei godi mewn erthygl ar wefan Y Twll: 'Nid yw senoffobia yn erbyn Cymry'n arbennig', dolen allanol.

Wrth i nifer o Gymry gyhuddo colofnydd Rod Liddle o fod yn hiliol a sarhaus yn erbyn y Cymry yn y Sunday Times ac yng nghylchgrawn y Spectator, dywed Nia fod y syniad mai rhagfarn gwrth-Gymraeg yw'r "hiliaeth dderbyniol olaf" ymhell o'r gwir.

"Mae'r syniad yma, bod ni'n cael ein herlyn yn benodol ac yn arbennig, mor bell o'r gwirionedd mae'n ymddangos fel bod pobol sy'n credu hyn felly'n hollol anymwybodol o faterion hiliaeth a senoffobia os nad yw'n ymwneud â nhw'n uniongyrchol," meddai ar wefan Y Twll.

"Os hoffwn ni weld sylwadau gwrth-Gymraeg yn cael eu cymryd o ddifri mae'n rhaid i ni wneud yn well gyda'n dicter.

"Os yr unig amser rydyn ni'n sylwi ar bobol fel Liddle ydi pan maen nhw'n ymosod ar ddiwylliant neu iaith Cymru, ac nid pan mae nhw'n ymosod ar bobol ddu, neu ar Fwslemiaid, neu ar unrhyw un arall, yna mae'n dicter ni'n ddibwys ac yn fethiant."

Digwydd 'drwy'r amser'

Eglurodd Nia wrth BBC Cymru Fyw pam ei bod wedi gwneud ei sylwadau.

"Fe weles i rai gwleidyddion yn dweud pethau fel, 'Dwi'n synnu fod y Sunday Times wedi cyhoeddi hyn', ond maen nhw yn dweud pethau afiach am bobl eraill," meddai.

"Mae pobl yn dweud na fydden nhw byth wedi dweud hyn am ryw hil neu iaith arall. Wel, ydyn maen nhw - mae Rod Liddle wedi gosod y bar efo dweud pethau fel hyn ac maen nhw'n cael eu cyhoeddi.

"Glywes i rai pobl yn dweud 'Tasen nhw wedi dweud hyn am Fwslemiaid fysen nhw wedi mynd i'r carchar' - wel, na, mae'n digwydd trwy'r amser a does neb yn cael ei roi yn y carchar.

"Ro'n i'n gweld gymaint o hynny yn benodol gan Gymry Cymraeg wrth ymateb i beth roedd Rod Liddle wedi ei ddweud a dyna be oedd yn fy ngwylltio i."

Duo wynebau yn Aberaeron

Yn gynharach eleni, roedd Nia'n un o gyd-sefydlwyr Rhwydwaith Gwrth-Hiliaeth Gorllewin Cymru.

Eglura mai un o'r pethau wnaeth ei hysgogi i sefydlu'r grŵp oedd y digwyddiad yng ngharnifal Aberaeron yn 2017 pan wnaeth pedwar person dduo eu hwynebau ar gyfer fflôt oedd yn dynwared tîm bobsled Jamaica o'r ffilm Cool Runnings.

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Ymchwiliodd yr heddlu i gyhuddiadau fod fflôt mewn carnifal yn Aberaeron yn 'hiliol'

Cawsant eu cyhuddo gan rai o fod yn hiliol ond penderfynodd yr Heddlu nad oedd unrhyw gyhuddiadau yn eu herbyn.

"Tua'r un amser roedd yna graffiti gwrth Gymreig ar draeth yn rhywle, a Twitter yn llawn pobl wedi gwylltio'r adeg honno," meddai Nia.

"Ond pan oedd y digwyddiad yn Aberaeron, roedd lot llai o bobl yn dweud ei fod yn warthus nag oedd ynglŷn â'r graffiti bach yna.

"Mae'r ddau beth yn ddilys - wrth gwrs mae sylwadau gwrth-Gymraeg yn rhywbeth y dylen ni ei gondemnio hefyd ond mae'r ffordd mae'r rhai pobl yn fframio'r peth, fel petai dim ond stwff gwrth-Gymraeg sy'n digwydd ac sy'n dderbyniol rŵan, yn awgrymu bod pobl ddim yn talu sylw i bobl eraill, yng Nghymru yn ogystal â bob man arall.

"Dydi hyn ddim o reidrwydd yn golygu bod yna lot o Gymry Cymraeg yn hiliol ond dwi'n meddwl efallai eu bod nhw'n anwybodus.

Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth Rod Liddle ei sylwadau wedi i filoedd arwyddo deiseb yn gwrthwynebu ail-enwi Pont Hafren yn Bont Tywysog Cymru

"Pan ydych chi'n rhywun sy'n fwy cyfforddus, sydd ddim yn gorfod meddwl am rywbeth fel hiliaeth yn uniongyrchol achos nad ydy o'n effeithio arnoch chi'n uniongyrchol, wedyn rydych chi'n fwy cyfforddus, dydych chi ddim yn sylwi ar y peth os nad ydych chi'n chwilio amdano fo.

"Rydych chi'n gweld bod dros 30,000 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb yma am ail-enwi'r bont ond dwi wastad yn mynd nôl at y stori Aberaeron achos ei fod yn gymaint o sioc i fi bod hynny bron a bod yn dderbyniol.

"Roedd lot o bobl yn ei alw'n hwyl diniwed, wel na, dio ddim - lle mae'r 30,000 o bobl yma i ddweud 'hang on 'di hyn ddim yn iawn'?

"Yr imbalance sy'n drawiadol imi.

"Ddylen ni sefyll i fyny dros bawb. Os ti'n trio cwffio un mae'n rhaid iti eu cwffio nhw i gyd.

"Fe fydden ni mewn lle cryfach i gwyno am bethau gwrth-Gymreig os ydan ni hefyd yn sefyll i fyny pan mae rhywbeth fel carnifal Aberaeron yn digwydd, ac yn dweud 'dydi hyn ddim yn dderbyniol'.

"Mae'n teimlo fel rhagrith os ydan ni'n dweud o wel, dim ots, nawn ni ddim gwneud hynny eto gobeithio, ac wedyn yn mynd mor flin am rywbeth fel ail-enwi Pont Hafren neu rywbeth mae Rod Liddle wedi ei sgrifennu."

Mae Nia Edwards-Behi yn adolygydd ac arbenigwr ffilm ac yn gweithio yn sinema Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth. Gallwch ddarllen ei blog gwreiddiol yn llawn ar wefan Y Twll., dolen allanol