Cyhoeddi adroddiad damwain gorsaf drenau Y Fenni

  • Cyhoeddwyd
ceblauFfynhonnell y llun, Twitter/ Mrs_Nichola_D
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai o ddefnyddwyr yr orsaf wedi cyhoeddi lluniau o'r ceblau

Mae adroddiad i ddigwyddiad "peryglus" mewn gorsaf drenau yn Sir Fynwy wedi nodi nad oedd digon o archwiliadau diogelwch wedi eu cynnal ar y safle.

Ar 28 Gorffennaf 2017, cafodd tri theithiwr eu taro gan gebl trydan ddaeth yn rhydd yng ngorsaf drenau'r Fenni.

Roedd y cebl yn cludo trydan i flwch signal yr orsaf.

Cafodd rhai o adeiladau ac offer yr orsaf hefyd eu difrodi yn y digwyddiad.

Llusgo

Nododd adroddiad y corff sy'n archwilio i ddamweiniau ar y rheilffyrdd, RAIB, fod y digwyddiad wedi ei achosi gan gebl oedd yn gollwng o bont droed uwchben y cledrau yn yr orsaf.

Ar y diwrnod dan sylw, fe gafodd y cebl ei lusgo gan antenna trên oedd yn teithio heibio, tan i un pen o'r cebl ddod yn rhydd, a chael ei daflu ar y platfform.

Ymhlith y rhai a gafodd eu taro gan y cebl oedd Georgina Davies, 17 oed, o Bont-y-pŵl.

Ar y pryd, esboniodd ei thad, Allun Davies, yr hyn ddigwyddodd: "Cafodd Georgina ei tharo ar ei phen, ei chefn, a'i braich, ac fe gafodd dau o'i ffrindiau anafiadau.

"Bu bron i un o'i ffrindiau a chael ei tharo gan fin, ac mi gafodd ffrind arall ei llusgo gan y cebl."

Ffynhonnell y llun, Network Rail

Casgliadau'r adroddiad

Ar ôl cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad, nododd yr adroddiad nad oedd archwiliadau cyson wedi eu cynnal ar y cebl, fel sy'n ofynnol ar gyfarpar trydan, ac nad oedd y ffaith fod y cebl yn gollwng wedi ei weld wrth i archwiliadau gael eu cynnal o'r bont droed.

Nodwyd hefyd nad oedd gan Network Rail ganllawiau ar reoli ceblau trydan foltedd isel sy'n croesi ar stwythurau uwchben y cledrau.

Dydy ymchwiliadau RAIB ddim yn gosod bai nac yn cynnal erlyniadau, ond yn eu hadroddiad maen nhw'n argymhell cyflwyno mesurau i sicrhau fod gweithwyr yn adnabod y peryglon o geblau rhydd, allai arwain at ddigwyddiad tebyg yn y dyfodol.