Cefnogi'r Jacks drwy'r cyfan

  • Cyhoeddwyd
trundle
Disgrifiad o’r llun,

Wil a Tomos, plant Emyr-Wyn Francis, gyda un o eiconau clwb Abertawe, Lee Trundle. mewn cyfnod hapusach i'r Elyrch

Sut mae'n teimlo i fod yn gefnogwr i'r Elyrch yr wythnos hon wrth i glwb pêl-droed Abertawe wynebu gweld eu cyfnod yn yr Uwch Gynghrair yn dod i ben?

Oni bai am wyrth, gyda Manchester City yn rhoi cweir o bum gôl i Southampton ar y penwythnos, a'r Elyrch yn gwneud yr un peth yn erbyn Stoke, yn y Bencampwriaeth fydd Abertawe'n chwarae y tymor nesaf, wedi saith tymor yn y brif adran.

Mae Emyr-Wyn Francis o Bontypridd yn dod o deulu o Jacks balch gyda'i dad a'i frawd yn gefnogwyr brwd a'i feibion, Wiliam a Tomos, hefyd yn dilyn y traddodiad teuluol.

Mae'n egluro sut mae'n teimlo a beth oedd ymateb ei blant i'r newyddion.

Yn amlwg roedd y plant yn siomedig o ddeall be sy'n debygol o ddigwydd.

Yr un peth sy'n ypsetio Wil yw'r ffaith na fydd sticeri Panini na Match Attax o chwaraewyr Abertawe'r tymor nesaf.

Hefyd, dwi wedi dweud wrthyn nhw'r ffaith mai dros y 35 tymor diwethaf, mae'r clwb wedi bod yn y ddwy adran isaf am tua 26 ohonynt, a fy mod i yn bersonol wedi cal mwynhad o bum dyrchafiad ac, mae'n ymddangos, chwe disgyniad!

Dydyn nhw ddim cweit yn deall hynny, oherwydd yn ystod pob blwyddyn o'u bywydau (ar wahân i flwyddyn gyntaf bywyd Wiliam) maen nhw wedi bod yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Ond maen nhw'n deall gymaint o arwr yw Leon Britton, a'i fod wedi bod yn rhan o'r garfan ers i ni guro Hull i aros yn y gynghrair.

Ma' Wil yn meddwl taw gwerthu Sigurdsson oedd y prif reswm aethon ni lawr, lle mae Tomos yn meddwl bod gormod o chwaraewyr "hopeless" yn y tîm!

Disgrifiad o’r llun,

Emyr-Wyn a'i wraig Kate gyda'r meibion, Wil a Tomos

Gemau cofiadwy

Roedd fy nhad yn dod o Manselton yn Abertawe. Fe benderfynodd pan oedden ni'n ifanc iawn mai Jacks o'dden ni am fod. Mae fy mrawd hŷn, Rhodri, yn gefnogwr Abertawe brwd iawn hefyd.

Roedd Abertawe yn yr Adran Gyntaf (bellach Uwch Gynghrair) o dan arweiniad John Toshack pan nes i wylio fy gêm gyntaf, ond fe aethon ni lawr y tymor yna digwydd bod. Arsenal oedd y gêm gyntaf welais i a dwi'n cofio fe'n glir, yn sefyll ar yr East Terrace gyda fy nhad a Rhodri.

Erbyn o'n i'n tua 15 oed, a fy mrawd yn y brifysgol, roedden ni'n dechrau mynd i gemau oddi cartref yn llefydd fel Mansfield, Torquay, Rochdale a Barnet, ac o'dden ni'n rili mwynhau.

Mae yna gemau cofiadwy fel ffeinal Cwpan Autoglass yn erbyn Huddersfield yn 1994 a'r gêm gyfartal yn erbyn Lerpwl yng Nghwpan yr FA yn 1990.

Wrth gwrs mae pawb yn siarad am y fuddugoliaeth yn erbyn Hull i aros yn y Drydedd Adran yn 2003. Ond pan rwy'n gweld cyn-chwaraewyr rwy'n dweud wrthynt mod i yn y gêm yr wythnos cynt - y fuddugoliaeth oddi cartref yn Rochdale a roddodd y cyfle i ni chwarae am le yn Y Gynghrair Bêl-droed yn erbyn Hull.

Ffynhonnell y llun, Alasdair Bater
Disgrifiad o’r llun,

Tomos yn cael cyfarfod ei hoff chwaraewr, y golgeidwad Łukasz Fabiański

Dwi'n cofio casglu arian i dalu cyflog Leon Britton yn y tymor cyntaf oedd e yna, a dwi hefyd yn cofio mynd i weld Abertawe yn erbyn Caer gartref ar yr un pryd â gêm rygbi ryngwladol Cymru, roedd 'na lai na mil yno.

Dwi hyd yn oed yn cofio fi a fy mrawd yn mynd i gêm yn erbyn Merthyr cyn i'r tymor ddechrau - ni'n dau ac un ffan arall o Abertawe oedd yno, a tua 900 o gefnogwyr Merthyr. Yr unig ffordd i adael Parc Penydarren yn saff oedd gyda chwmni chwe phlismon.

Y mab yn fascot

Fel tad sy'n hoff iawn o bêl-droed o'n i'n gobeithio bydda'r plant yn hoffi fe hefyd. Roedd gennyf i a fy ngwraig docynnau tymor, a bellach mae gan fy meibion, Wiliam a Tomos, hefyd.

Tua mis yn ôl cafodd Wil y siawns i fod yn fascot yn y gêm yn erbyn Everton, ac roedd y profiad gafodd e yn anhygoel, ac roeddwn i'n prowd iawn fel tad yn gweld e'n mynd ar y cae gyda'i hoff chwaraewr, Martin Olsson.

Disgrifiad o’r llun,

Wil gyda ei hoff chwaraewr, cefnwr Abertawe a Sweden, Martin Olsson

Beth aeth o'i le?

Mae pethau wedi dechrau mynd o chwith yn Abertawe ers rhyw ddwy neu dair blynedd. Dy'n ni ddim wedi prynu yn gall, ac efallai bod y clwb wedi bod yn edrych ar ôl y geiniog ychydig bach gormod, i'r pwynt lle ma' fe am ddal fyny da nhw nawr.

Mae Abertawe wedi colli'r ysbryd nath godi'r clwb i'r Uwch Gynghrair, sef chwarae mewn steil arbennig Adertawe-aidd, o'dd yn gwneud i lawer o sylwebyddion ddweud pa mor braf oedd hi i gael Abertawe yn y gynghrair.

Ry'n ni hefyd wedi colli ysbryd chwaraewyr fel Leon Britton, Angel Rangel, Alan Tate a Garry Monk, lle'r oedd chwarae i'r clwb yn bwysig iddyn nhw, lle mae chwaraewyr heddiw 'falle'n meddwl am yr arian maen nhw'n cael ar ddiwedd yr wythnos.

Mae angen reset button ar Abertawe nawr. Mae'n hyfryd gweld Connor Roberts yn chwarae, a ti'n gweld bod e'n golygu rhywbeth iddo fe fel bachgen lleol - dyna'r math o beth mae cefnogwyr eisiau gweld.

'Da ni wedi gwneud yn dda iawn yn yr adran dan 23, ond 'da ni heb weld y chwaraewyr ifanc 'ma yn dod drwyddo, felly mae e'n bositif o beth y bydd y bechgyn ifanc 'ma yn cael mwy o gyfleoedd yn y Bencampwriaeth.

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK
Disgrifiad o’r llun,

Connor Roberts, chwaraewr ifanc lleol - a fydd yn cael mwy o gyfle i chwarae yn y Bencampwriaeth efallai?

Ry'n ni wedi gwneud yn dda iawn i aros yn y gynghrair am saith mlynedd, ond roedd pawb yn gwybod y bydde fe'n dal lan 'da ni, ac i ryw raddau rwy'n edrych 'mlaen i'r Bencampwriaeth.

Mae angen ail-drefnu a chael y cyflogau i lawr, a gobeithio bod beth sydd wedi digwydd i Sunderland ddim yn digwydd i ni - rhaid ni aros yn y Bencampwriaeth flwyddyn nesa' a mynd nôl i chwarae pêl-droed neis.

I ryw raddau rwy'n falch y bydd y plant yn cael bach o flas o dimau llai, a hefyd rwy'n hapus i weld mwy o wir gefnogwyr yn mynd i weld y clwb. Fe wnaeth fi'n grac i weld gymaint o ffans yn gadael pan oedden ni 1-0 lawr yn erbyn Southampton, achos bydde sgorio un gôl wedi rhoi cyfle i ni ar gyfer y penwythnos.

Roedd Carlos Carvalhal (rheolwr Abertawe sy'n gadael y clwb ddiwedd y tymor) yn chwarae pêl-droed negyddol. Roedd angen iddo ennill un gêm o'r bump neu chwech diwethaf, ond mae wedi bod yn setio'r tîm lan i gael gêm gyfartal 0-0 ond ni wedi benu lan yn colli bron pob gêm.

Ffynhonnell y llun, Dan Mullan
Disgrifiad o’r llun,

Y rheolwr Carlos Carvalhal, sy'n gadael yr Elyrch ddiwedd y tymor

Oedden ni'n un o'r tri gwaethaf yn yr Uwch Gynghrair eleni? Oedden. Rwy'n meddwl bo' ni'n haeddu mynd lawr.

Rwy'n teimlo'n flin dros y ddinas - roedd yn hwb mawr i economi'r ddinas. A phan oedd y mab yn fascot nes i weld faint o bobl mae'r clwb yn ei gyflogi yn yr ardal.

Dwi ddim yn disgwyl i Abertawe fynd nôl fyny yn y ddwy, tair, pedair neu bum mlynedd nesa', mae angen setlo yn y Bencampwriaeth a gweithio ein ffordd nôl. Ond dwi'n gobeithio y bydd yna legacy hirdymor yna i adeiladu at y dyfodol.