Galw am gefnogaeth ariannol i newyddiaduraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Dylai rhai gwasanaethau newyddion gael cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru i annog rhagor o newyddion er budd y cyhoedd, yn ôl pwyllgor Cynulliad.
Wrth gyhoeddi adroddiad i'r sector ddydd Iau, mae'r Pwyllgor Diwylliant yn dweud bod Cymru wedi diodde'n waeth na rhannau eraill o'r DU yn sgil diffyg amrywiaeth.
Mae'r pwyllgor wedi amlinellu mesurau i geisio sicrhau bod sawl ffynhonnell newyddion yng Nghymru er gwaethaf llai o olygyddion.
Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi newyddiaduraeth newyddion fel blaenoriaeth strategol ac ystyried ffyrdd o roi cymorth i'r sector, meddai'r pwyllgor.
Dywedodd y llywodraeth eu bod "wedi ymrwymo i gefnogi cyfryngau Cymreig bywiog".
Awgrymodd y pwyllgor y gallai corff hyd braich gael ei greu i ddarparu cymorth ariannol i rai cyhoeddwyr, ac y dylid ystyried lleihau trethi yn y sector.
Fe dderbyniodd y pwyllgor dystiolaeth gan ddarparwyr newyddion masnachol, y BBC, gwefannau lleol ac academyddion.
Dywedodd y pwyllgor bod "sefyllfa newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru yn golygu y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i ryw ffordd o roi cymhorthdal i newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yng Nghymru".
Ychwanegodd y gellid defnyddio model cymorthdaliadau Golwg360 fel enghraifft i ariannu cyhoeddwyr eraill.
Mae'r pwyllgor yn cydnabod y byddai angen sicrhau bod cyhoeddwyr sy'n derbyn cymorth ariannol â golygyddiaeth annibynnol o Lywodraeth Cymru.
'Effaith anghymesur ar Gymru'
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, AC Plaid Cymru, Bethan Sayed: "Yn debyg i rannau eraill o'r byd, mae cylchrediad papurau newydd Cymru wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae cylchrediad ar-lein wedi cynyddu - gan arwain at golli swyddi, cyfuno papurau newydd a chau papurau newydd.
"Nid yw Cymru ar ei phen ei hun o bell ffordd yn y dirywiad hwn mewn papurau newydd print traddodiadol.
"Fodd bynnag, mae cyfryngau Cymru yn llai a heb gymaint o amrywiaeth â rhannau eraill y DU, ac felly mae effaith y newidiadau hyn yn anghymesur.
"Rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried pwysigrwydd gosod sector cyfryngau amrywiol fel blaenoriaeth strategol ac ymchwilio i ffyrdd o gefnogi'r sector naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i gefnogi cyfryngau Cymreig bywiog fel rhan allweddol o'n cymdeithas ddemocrataidd fodern".
"Bydd y gweinidog diwylliant yn ystyried argymhellion yr adroddiad yn ofalus cyn ymateb yn ffurfiol," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2015
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2015