Abertawe angen gwyrth i osgoi disgyn o'r Uwch Gynghrair

  • Cyhoeddwyd
AbertaweFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Abertawe eu trechu gan Southampton nos Fawrth

Bydd Abertawe'n disgyn i'r Bencampwriaeth oni bai bod gwyrth ar y diwrnod olaf yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sul.

Mae hynny wedi i Huddersfield sicrhau gêm gyfartal 1-1 yn Chelsea nos Fercher, gan olygu nad yw'r Elyrch yn gallu gorffen yn uwch na nhw yn y tabl bellach.

I osgoi disgyn o'r gynghrair, byddai'n rhaid i Abertawe drechu Stoke, gobeithio bod Southampton yn colli yn erbyn Manchester City, a bod 10 gôl o wahaniaeth rhwng y ddau dîm.

Er enghraifft, byddai'n rhaid i Abertawe drechu Stoke 5-0 a gobeithio bod Southampton yn colli 5-0 yn erbyn Manchester City.

Cafodd y Cymry eu trechu gan Southampton nos Fawrth.

Mae Stoke, sydd ar waelod y tabl, eisoes yn sicr o ddisgyn i'r Bencampwriaeth y tymor nesaf, ond dyw Abertawe heb ennill yr un o'u wyth gêm ddiwethaf.