Y Gleision yn wynebu Caerloyw yn ffeinal Cwpan Her Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Ellis JenkinsFfynhonnell y llun, Getty Images

Ellis Jenkins fydd capten y Gleision wrth iddyn nhw herio Caerloyw yn ffeinal Cwpan Her Ewrop nos Wener.

Mae mwyafrif y tîm a drechodd Pau yn y rownd gyn derfynol wedi eu henwi, ond bydd Gethin Jenkins yn methu allan drwy anaf.

Bydd Rhys Gill a Blaine Scully yn cymryd lle Jenkins ac Alex Cuthbert, tra bod y prop Taufa'ao Filise yn dechrau ei 255fed gêm, a'i olaf i'r rhanbarth.

Mae Jarrod Evans yn cadw crys y maswr i'r Gleision, gyda Gareth Anscombe yn aros fel cefnwr.

Mae 10 newid i gyd i'r tîm a wynebodd y Gweilch ar ddydd y farn.

Dychwelyd i'r arfer mae Caerloyw hefyd wrth iddynt wneud 11 newid i'r tîm a gollodd i Saracens ddydd Sadwrn diwethaf.

Disgrifiad,

Dywedodd gohebydd rygbi BBC Cymru, Gareth Charles, mai'r Gleision yw'r ffefrynnau

Mae'r Gleision yn gobeithio ennill y gystadleuaeth am yr ail dro, y tro cyntaf yn ôl yn 2010 ar ôl trechu Toulon.

Bydd y ffeinal yn cael ei chwarae yn stadiwm San Mames, Bilbao nos Wener am 20:00.

Mae modd dilyn y gêm ar ein llif byw arbennig ar wefan Cymru Fyw.

Tîm y Gleision

Anscombe; Lane, Lee-Lo, Halaholo, Scully; Evans, Williams; Gill, Dacey, Filise, Davies, Turnbull, Navidi, Jenkins (c), Williams.

Eilyddion: Myhill, Thyer, Andrews, Welch, Robinson, Williams, Smith, Morgan.

Tîm Caerloyw

Woodward; Marshall, Twelvetrees, Atkinson, Trinder; Burns, Braley; Hohneck, Hanson, Afoa, Slater (c), Galarza, Polledri, Ludlow, Ackermann.

Eilyddion: Matu'u, Rapava Ruskin, Balmain, Clarke, Morgan, Vellacott, Symons, Hudson.