Ystyried gwn Taser i bob plismon
- Cyhoeddwyd
Fe allai holl blismyn heddlu'r de gael eu harfogi â gynau Taser mewn ymateb i bryder am droseddwyr arfog.
Ar hyn o bryd mae tua 10% o blismyn y rhanbarth yn cario gynau Taser.
Dywedodd prif gwnstabl Heddlu'r De, Matt Jukes, nad oedd hynny yn ddigon i amddiffyn yr heddlu, wrth iddyn nhw ddelio â throseddwyr sydd yn cario cyllyll ag arfau eraill.
Mae'r adolygiad presennol yn ystyried rhoi gynau taser i hyd at 100% o heddweision "rheng flaen".
Mae grwpiau hawliau dynol wedi rhybuddio am beryglon gynau Taser ac na ddylai'r heddlu ddefnyddio gynau i ddychryn pobl.
Yn ôl y prif gwnstabl mae 'na bryder cynyddol bod pobl yn cario cyllyll ac yn barod i ymosod ar swyddogion yr heddlu.
Y llynedd fe gyflwynodd heddlu'r de fygydau arbennig i atal troseddwyr rhag poeri arnyn nhw.
Dywedodd Mr Jukes "Rydw i eisiau i'n swyddogion gael offer i'w hamddiffyn"
"Hyder i blismyn"
"Byddai ehangu'r defnydd o ynau Taser ddim yn arwain at fwy o ddefnydd ohonyn nhw. Yn hytrach byddai yn rhoi mwy o hyder i blismyn i atal digwyddiadau treisgar."
"Byddai pobl yn meddwl ddwywaith am ymosod ar yr heddlu a phobl eraill" meddai.
Yn ôl y mudiad hawliau dynol Liberty "mae Tasers yn medru lladd - dyna pam mai dim ond swyddogion sydd â hyfforddiant arbennig i ddefnyddio gynau ddylai gario nhw.
"Mae yna ormod o esiamplau o gamddefnydd, gyda phobl o gefndiroedd lleiafrifol a'r rhai sydd a chyflyrau iechyd meddwl wedi eu heffeithio fwyaf."