Y Gleision yn trechu Caerloyw i ennill Cwpan Her Ewrop
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gleision wedi cipio Cwpan Her Ewrop wedi buddugoliaeth gyffrous o 31-30 yn erbyn Caerloyw.
Fe darodd Caerdydd yn ôl yn yr ail hanner ar ôl bod ar ei hôl hi o 14 pwynt.
Y Gleision gafodd y tri phwynt cyntaf yn Bilbao a hynny o fewn pum munud.
Ond Caerloyw oedd ar y blaen yn fuan wedyn gyda chais, wrth i gic wych gan y maswr Billy Burns ganfod yr asgellwr Henry Trinder yn y gornel.
Pwynt oedd yn gwahanu'r ddau dîm wedi 15 munud yn dilyn gôl gosb i Gaerdydd.
Er hynny fe olygodd goliau cosb a chais gan Mark Atkinson fod Caerloyw ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf o 6-20.
Fe ddaeth y cyffro yn gynnar yn yr ail hanner - cais o fewn munud i fewnwr y Gleision Tomos Williams wrth iddo ddangos ei sgiliau pêl-droed i sgorio ger y pyst.
Daeth cais arall y tro yma i Garyn Smith ar ôl 55 munud gan olygu bod y tîm o Gymru nawr ar y blaen o 23-20.
Cais yn y munudau olaf
Ond nid felly wnaeth y sgôr aros, gyda sgarmes symudol bwerus Caerloyw yn gwthio'r blaenwyr dros y llinell gais a James Hanson yn sgorio.
Ym munudau olaf y gêm daeth cais arall i'r Gleision gan Blaine Scully, ond doedd Gareth Anscombe ddim yn llwyddiannus gyda'r gic fyddai wedi gwneud y sgôr yn gyfartal.
Ond nid dyna'r diwedd, gyda Chaerloyw yn troseddu gan roi un cyfle olaf i Gaerdydd.
Roedd cic Anscombe yn llwyddiannus y tro hyn, gyda munud yn unig yn weddill o'r gêm.
Y sgôr terfynol felly oedd 31-30 i'r Gleision.
Mae'r canlyniad yn golygu mai dyma'r unig ranbarth yng Nghymru i guro Cwpan Her Ewrop, a hynny nawr am yr ail waith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018