Abertawe 'angen gwyrth' i aros yn yr uwch gynghrair

  • Cyhoeddwyd
Mawson ac AbrahamFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae seithfed tymor Abertawe ar fin dod i ben yn Uwch Gynghrair Lloegr gyda'r Elyrch yn paratoi i wynebu Stoke yng ngêm olaf o'r tymor yn Stadiwm Liberty.

Mae'n bosib mai hon fydd gêm olaf y ddau glwb yn Uwch-Gynghrair Lloegr. Mae Stoke eisoes i lawr ac mae Abertawe angen 'gwyrth' yn ôl eu rheolwr Carlos Carvalhal er mwyn aros fyny.

Os am unrhyw obaith, mae'n rhaid i Abertawe ennill a gobeithio y bydd y pencampwyr, Man City, yn rhoi crasfa i Southampton.

Ond dyw ennill yn unig ddim digon- mae'n rhaid bod 10 gôl o wahaniaeth o blaid Abertawe rhwng y ddau glwb ar ddiwedd y prynhawn.

Chwaraewyr yn gadael

Mae hynny yn ofyn mawr wrth feddwl nad yw Abertawe wedi llwyddo i sgorio un gôl yn ei chwech o'i wyth gêm ddiwethaf.

Maen nhw hefyd ar rediad o wyth gem heb ennill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fydd y rheolwr ddim yn parhau gyda'r clwb y tymor nesaf

Mae hi wedi bod yn wythnos galed a rhwystredig i'r Elyrch ar y maes ac oddi ar y maes chwarae.

Wedi'r golled o 1-0 yn erbyn Southampton nos Fawrth daeth cyhoeddiadau lu ynglŷn â chwaraewyr sydd wedi bod yn rhan allweddol o hanes diweddar Abertawe yn gadael ar ddiwedd y tymor.

Mae Leon Britton ac Angel Rangel y ddau sydd wedi codi trwy'r cynghreiriau gyda'r clwb dros y blynyddoedd wedi dweud na fydden nhw'n derbyn cytundeb newydd ar ddiwedd y tymor.

Yn ogystal, mae'r clwb hefyd wedi cadarnhau na fydd y rheolwr Carlos Carhalhal yn ymestyn ei gytundeb ef ar ddiwedd y tymor chwaith.

Daeth Carvalhal yn rheolwr ym mis Rhagfyr 2017 ar ôl i Paul Clement gael ei ddiswyddo.

Bryd hynny roedd Abertawe ar waelod y tabl a phum pwynt yn glir o'r safleoedd diogel yn y gynghrair.

'Pethau ar chwâl'

Yn ei gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener roedd Carvalhal yn cymharu ystadegau yn ystod ei gyfnod ac yn y gemau cyn iddo gymryd drosodd fel rheolwr, gan awgrymu fod y niwed wedi'i wneud cyn iddo ddod yn rheolwr.

Un sydd wedi bod yn gwylio Abertawe'n gyson ar hyd y tymor yw Sylwebydd Pêl-droed BBC Cymru, Dylan Griffiths.

"Mi gafodd Carvalhal y dechrau perffaith i'w gyfnod fel rheolwr gyda buddugoliaeth yn ei gem agoriadol yn erbyn Watford - mi gafwyd buddugoliaethau hefyd yn erbyn Lerpwl, Arsenal a West Ham, ond er y dechrau da mi aeth pethau ar chwâl i'r Elyrch," meddai.

Wrth i Abertawe ddechrau paratoi ar gyfer tymor nesaf, mae nifer o'r cefnogwyr yn anfodlon iawn gyda sut mae'r clwb yn cael ei redeg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyw rhai o'r cefnogwyr ddim yn hapus gyda chadeirydd y clwb, Huw Jenkins

Mae sawl un yn galw ar y cadeirydd Huw Jenkins hefyd i gamu o'r neilltu.

Yn ogystal â chwilio am reolwr newydd mae Dylan Griffiths hefyd yn credu gallai sawl un o chwaraewyr mwyaf dylanwadol Abertawe adael y Liberty ar ddiwedd y tymor.

"Mae Abertawe yn edrych am reolwr arall - ac yn wynebu bywyd yn y Bencampwriaeth. Y peryg ydy y bydd chwaraewyr fel y golwr Lukasz Fabianski a'r amddiffynnwr Alfie Mawson yn gadael hefyd," meddai.

Yn fathemategol dyw'r daith ddim ar ben i Abertawe ac mae'r cefnogwyr yn gobeithio bydd darbi de Cymru yn digwydd eto'r tymor nesaf.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Caerdydd gêm gyfartal yn erbyn Reading oedd yn ddigon i sicrhau eu lle yn yr uwch gynghrair

Wrth i'r Elyrch chwarae ddydd Sul, bydd Caerdydd yn dathlu gyda thaith arbennig o amgylch y brif ddinas ar ôl eu dyrchafiad.

Ar ddiwedd y daith honno a fydd siwrnai Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi dod i ben?

Bydd modd dilyn yr holl gyffro brynhawn Sul ar lif byw arbennig BBC Cymru Fyw.