Cyn-flaenwr Cymru a'r Llewod, Gareth Williams, wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Gareth WilliamsFfynhonnell y llun, Clwb Rygbi Penybont
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Gareth Williams mewn pedair gêm rownd derfynol Cwpan Cymru dros Glwb Rygbi Penybont

Mae un o gyn-chwaraewyr rygbi Cymru a'r Llewod, Gareth Williams, wedi marw yn 63 oed.

Roedd yn gapten ar Glwb Rygbi Pen-y-bont yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf llewyrchus yn y 70au hwyr a'r 80au, ac yn ogystal â chwarae pump o weithiau dros Gymru rhwng 1980 ac 1982 fe chwaraeodd i dîm y Llewod yn 1980.

Ers 2012 roedd wedi bod yn diodde' o gyflwr lle mae celloedd nerfau yn yr ymennydd yn dirwyo dros gyfnod.

Cafodd ei farwolaeth ei gadarnhau gan Glwb Rygbi Pen-y-bont ar eu tudalen Facebook, lle cafodd ei ddisgrifio fel "gwir arwr".

Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Penybont
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Williams yn cael ei adnabod fel 'Sam' i lawer o gefnogwyr Clwb Rygbi Pen-y-bont

"Fe chwaraeodd Gareth yn y buddugoliaethau yn erbyn Pontypridd ac Abertawe yng Nghwpan Cymru", meddai'r datganiad.

"Fe sgoriodd gais yn y gêm yn erbyn Pontypridd yn 1979, ac fe oedd seren y gêm yn erbyn Abertawe yn 1980.

"Roedd 'Sam' yn ŵr bonheddig, yn chwaraewr aruthrol, yn ddyn teulu arbennig ac yn ffrind da i lawer.

"Fe fydd y golled i'w deimlo gan bawb a fuodd mor ffodus i'w nabod."

Ffynhonnell y llun, @lionsofficial
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Gareth Williams i'r Llewod yn erbyn De Affrica yn 1980

Ar eu cyfri Twitter, dywedodd y Llewod "bod eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau Gareth Williams sydd wedi marw yn sgil salwch. "

"Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni'n gallu anrhydeddu ei fywyd a'i gyfraniad i'r Llewod drwy gyflwyno'r cap hwn yn ei enw.

"Llew #571."‪