Ennill Cwpan Her Ewrop 'yn anhygoel'

  • Cyhoeddwyd
Gleision Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cefnogwyr wedi mynd i gwrdd â'r chwaraewyr wrth iddyn nhw gyrraedd maes awyr Caerdydd brynhawn Sul

Daeth torf o bobl i gwrdd â thîm Gleision Caerdydd wrth iddyn nhw ddychwelyd adre i Gymru ar ôl ennill Cwpan Her Ewrop yn Bilbao nos Wener.

Fe gurodd y Gleision dîm Caerloyw yn ystod munudau ola'r gêm o 31 - 30, gan godi'r cwpan am yr ail dro yn eu hanes.

Wrth gyfarch y cefnogwyr a ddaeth i gwrdd â'r tîm ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, dywedodd y prif hyfforddwr, Danny Wilson, bod hwn yn "ddiwedd arbennig i dymor hir, ac roedd y bechgyn i gyd yn ffantastig".

Ychwanegodd: "Mae gan y Gleision gymysgedd dda o fechgyn ifanc a chwaraewyr profiadol yn y garfan, a gobeithio fydd hynny yn rhoi sylfaen gadarn i allu adeiladu arno," meddai Wilson, sydd yn rhoi'r gorau i'r awenau hyfforddi gyda'r clwb ar ddiwedd y tymor.

Dywedodd Ellis Jenkins, y capten bod "ennill yn y modd y gwnaethon ni yn anhygoel".

Roedd y Gleision ar ei hôl hi o ddau bwynt, cyn i Gareth Anscombe lwyddo gyda chic gosb yn munudau ola'r gêm.

Yn ôl yr wythwr, Nicholas Williams, roedd ennill y tlws yn "anhygoel" ac yn "foment arbennig".

"Roedd hi (y gêm) yn hynod o galed, ond ar ddiwedd y dydd mae'r holl waith caled werth e pan allwn ni wylio ein capten, Ellis yn codi'r tlws."