Uwch Gynghrair Lloegr: Abertawe 1-2 Stoke

  • Cyhoeddwyd
Lukasz FabianskiFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Abertawe yn chwarae yn y bencampwriaeth y tymor nesaf, wrth i gyfnod saith mlynedd yr Elyrch yn yr Uwch Gynghrair ddod i ben.

Roedd rhaid i Abertawe guro ac roeddynt hefyd yn ddibynnol ar ganlyniadau eraill i fynd o'u plaid ond fe brofodd y dasg yn ormod wrth i Stoke eu trechu o 2-1.

Y Cymro Andy King roddodd yr Elyrch ar y blaen wedi 14 munud cyn i Badou Ndiaye ddod â Stoke yn gyfartal.

Peniad Peter Crouch roddodd Stoke ar y blaen gan ddileu unrhyw obaith yr oedd gan Abertawe o gyflawni gwyrth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgorwyr goliau Stoke Badou Ndiaye (chwith) a Peter Crouch (dde)

Daeth yr Elyrch i mewn i'r gêm gan wybod bod rhaid ennill a gobeithio y byddai'r pencampwyr, Man City, yn rhoi crasfa i Southampton.

Roedd hefyd angen sicrhau bod 10 gôl o wahaniaeth rhwng y ddau glwb - o blaid Abertawe - ar ddiwedd y prynhawn.

Cafodd yr Elyrch eu gwobrwyo am gyfnod o bwysau cynnar wrth i Andy King orffen yn daclus ar ôl i'r bêl ddisgyn iddo ar ymyl y cwrt cosbi.

Bu bron i Wayne Routledge ddyblu mantais yr Elyrch ond fe lusgodd ei ergyd heibio'r postyn pellaf.

Roedd Abertawe yn dal i bwyso pan ddaeth Stoke yn gyfartal drwy Badou Ndiaye.

Stoke ar y blaen

Pêl hir lawr y cae gan Shaqiri at Ndiaye a gyda Fabianski oddi ar ei linell dyma'r gŵr o Senegal yn codi'r bêl dros ben golwr Abertawe.

Wrth i'r awyrgylch yn y Liberty ddechrau suro fe fanteisiodd yr hen ben Peter Crouch ar amddiffyn llac gan Abertawe i benio Stoke ar y blaen.

Fe fethodd Xhedran Shaqiri y cyfle i adeiladu ar fantais Stoke, wrth i Fabianski arbed ei gic o'r smotyn wedi 53 munud.

Er gwaethaf ymosod ddiflino gan y tîm cartref, doedden nhw methu'n glir a thorri drwy amddiffyn cadarn Stoke.

Arbedodd Jack Butland yn dda o ergydion gan Sam Clucas a Tammy Abraham yn hwyr yn yr ail hanner i gadw mantais Stoke yn ddiogel.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Leon Britton ymlaen fel eilydd am y tro olaf

Roedd heddiw yn ddiwrnod trist i gefnogwyr am reswm arall hefyd, wrth i Leon Britton ac Angel Rangel chwarae i'r Elyrch am y tro olaf.

Roedd y ddau, ynghyd a'r rheolwr Carlos Carvalhal eisioes wedi cyhoeddi y byddan nhw'n gadael y clwb ar ddiwedd y tymor.

Cafodd protestiadau eu cynnal gan rai cefnogwyr cyn y gem ynglŷn â chwynion am gadeirydd y clwb Huw Jenkins, ac roedd rhai yn lleisio eu rhwystredigaeth yn ystod y gêm hefyd.

Mae haf prysur o flaen Abertawe nawr wrth iddynt baratoi am dymor yn y Bencampwriaeth gydag ansicrwydd am gadeirydd, rheolwr a nifer o chwaraewyr y clwb.