Tîm rheoli i adael Clwb Pêl-droed Dinas Bangor
- Cyhoeddwyd
Bydd rheolwr Clwb Pêl-droed Dinas Bangor, Kevin Nicholson a'i ddirprwy, Gary Taylor-Fletcher yn gadael wedi i'r clwb ddisgyn o Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf erioed.
Er i'r clwb orffen yn ail yn y tabl fe gollon nhw eu lle yn y gynghrair ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru wrthod apêl am drwydded ddomestig.
Dywedodd y clwb mewn datganiad fod cytundeb Nicholson yn dod i ben ar 22 Mai, ac 30 Mehefin yn achos Taylor-Fletcher.
Bydd manylion am y tîm rheoli newydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau, 17 Mai.
'Cynnydd arbennig'
Dywedodd Cyfarwyddwr Pêl-droed CPD Bangor, Stephen Vaughan Jr bod Nicholson a Taylor-Fletcher wedi gweithio'n galed a chyrraedd y nodau roedd wedi eu gosod ar eu cyfer.
"Gyda'n gilydd roedden ni wedi creu carfan ardderchog a gwneud cynnydd arbennig mewn cyfnod byr," meddai.
Wrth ddymuno'r gorau i'r clwb at y dyfodol, dywedodd Nicholson ar ei gyfrif Twitter: "Rwy'n falch eithriadol o'r hyn wnaethon ni ei gyflawni y tymor yma.
"Wnâi fyth anghofio lefel y gefnogaeth gan gefnogwyr Bangor. Rwy'n edrych ymlaen at y dyfodol a'r her nesaf."
Mae'r clwb yn bwriadu herio penderfyniad y Gymdeithas Bêl-droed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018