Ki yn gadael Abertawe ar ôl disgyn i'r Bencampwriaeth

  • Cyhoeddwyd
Ki Sung-yuengFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ki Sung-yueng wedi ymddangos dros 160 o weithiau i'r Elyrch

Mae chwaraewr canol-cae Abertawe, Ki Sung-yueng wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y clwb wedi iddyn nhw ddisgyn i'r Bencampwriaeth.

Mae'n dilyn dau chwaraewr arall o'r clwb, yn dilyn cyhoeddiadau Leon Britton ac Angel Rangel yr wythnos diwethaf.

Fe wnaeth y chwaraewr 29 oed o Dde Corea gyhoeddi'r newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ki yw'r chwaraewr cyntaf sy'n aelod rheolaidd o dîm cyntaf yr Elyrch i gyhoeddi y bydd yn gadael wedi iddyn nhw ddisgyn i'r Bencampwriaeth.

'Dod 'nôl yn gryfach'

Fe ymunodd ag Abertawe o Celtic yn 2012 am ffi o tua £6m, oedd yn record i'r clwb ar y pryd, ac roedd yn rhan o'r garfan lwyddodd i gipio Cwpan y Gynghrair yn 2013.

Dywedodd ei fod yn teimlo'n "rhwystredig a siomedig iawn" ynglŷn â methiant y clwb i aros yn yr Uwch Gynghrair.

"Rwy'n credu y bydd Abertawe yn dod 'nôl yn gryfach ac ailddarganfod eu ffordd o chwarae ar gyfer y cefnogwyr," meddai wrth iddo ddod â'i gyfnod gyda'r clwb i ben.