'Dim atebion' gan lywodraeth y DU ar fasnach â'r UE

  • Cyhoeddwyd
ffin IwerddonFfynhonnell y llun, PA

Mae prif weinidog Cymru wedi dweud nad yw'n credu fod gan Lywodraeth y DU ateb ar hyn o bryd i'r trefniadau masnachu gyda'r UE yn dilyn Brexit.

Dywedodd Carwyn Jones wrth ACau nad yw'n gweld sut mae'n bosib cynnal "ffin agored ar ynys Iwerddon" oni bai bod rhyw fath o undeb dollau rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd.

Ond mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod y syniad o sefydlu undeb dollau â'r UE, ac maen nhw'n trafod dau opsiwn sydd wedi rhannu aelodau'r cabinet.

Dywedodd Mr Jones eu bod wedi cymryd camau tuag at sicrhau rôl fwy i Lywodraeth Cymru yn y trafodaethau Brexit, ond nad oes "cytundeb ffurfiol eto".

'Mwy tryloyw'

Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor Brexit y Cynulliad ddydd Llun, dywedodd y prif weinidog fod Llywodraeth y DU wedi cynhyrchu papur mewn cyfarfod diweddar gyda gweinidogion Cymru a'r Alban ar eu rhan nhw wrth ddatblygu safbwynt y DU yn y trafodaethau.

Dywedodd fod angen cytundeb ar strwythur priodol ar gyfer sut fydd llywodraethau gwahanol y DU yn bwydo mewn i drafodaethau Brexit cyn y cyfarfod nesaf ag arweinwyr yr UE ym Mrwsel ddiwedd Mehefin.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn gobeithio dod i gytundebau masnach â gwledydd y tu hwnt i'r UE wedi Brexit.

Dywedodd Mr Jones fod ei lywodraeth wedi "gwthio Llywodraeth y DU i fod yn fwy tryloyw ac agored yn eu trafodaethau â gwledydd eraill" ond nad ydyn nhw wedi eu "gwahodd i gymryd rhan mewn grwpiau gwaith sydd wedi'u sefydlu, fel grŵp gwaith Awstralia a'r DU".

Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones yn wynebu'r pwyllgor Brexit ddydd Llun

"Mae'n hanfodol bwysig iddyn nhw allu cadw ni a'r Alban yn rhan o bethau," meddai.

Ychwanegodd: "Dwi'n amau mai'r peth olaf fydden nhw eisiau yw ceisio cyhoeddi cytundeb masnach rydd yn wyneb gwrthwynebiad gan sefydliad datganoledig. Byddai hynny'n creu trafferthion iddyn nhw."

Mewn erthygl i'r Sunday Times dros y penwythnos, dywedodd Theresa May fod ei llywodraeth hi eisiau "gadael yr undeb dollau fel bod modd i ni sefydlu'n polisi masnach annibynnol ein hunain a dod i gytundebau sydd o fudd i ni".

Mae Downing Street wedi cynnig dau opsiwn - trefniant dollau "llyfn tu hwnt", a phartneriaeth dollau.

'Dim ateb'

Ond dywedodd Mr Jones nad oedd yn credu fod gan Lywodraeth y DU "ateb i hyn".

"Allai jyst ddim gweld sut all cael y DU y tu allan i'r undeb dollau weithio o gwbl gyda ffin agored ar ynys Iwerddon," meddai.

"Allai jyst ddim gweld sut mae'n gweithio os nad oes rhwystrau ar y ffin rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon, a neb yn archwilio'r nwyddau sy'n teithio o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr, sydd yn ei hun yn codi cwestiynau gwleidyddol sy'n anodd eu datrys."

Ychwanegodd: "Allai ddim gweld unrhyw drefniant arall sy'n gweithio [i'r ffin yn Iwerddon] os nad yw'r DU mewn undeb dollau."