AC Plaid yn cyhuddo gweinidog o weiddi 'annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
simon thomas ac alun davies

Mae Aelod Cynulliad wedi cyhuddo'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies o weiddi'n "annerbyniol" yn y Senedd.

Dywedodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas fod rhai gweinidogion yn "gor-slejio", cyfeiriad at derm criced ble mae chwaraewyr yn ceisio sicrhau mantais drwy sarhau gwrthwynebwyr.

Mewn llythyr i'r Prif Weinidog Carwyn Jones yr wythnos diwethaf fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood gyhuddo gweinidogion o "sylwadau nawddoglyd" tuag at ei ACau.

Mewn ymateb fe wnaeth Arweinydd y Tŷ a'r Brif Chwip, Julie James gyhuddo Mr Thomas o geisio "tanseilio dyfarniad y Llywydd".

'Yn waeth i fenywod'

Mewn briffiad i'r wasg yn y Cynulliad ddydd Mawrth, dywedodd Simon Thomas: "Roedd llythyr Leanne yn reit benodol yn beth roedd hi'n ei ddweud, doedd hi ddim yn galw am ddadl rymus.

"Ond roedd hi'n gwneud pwynt penodol fod gan rai gweinidogion dueddiad i nawddogi aelodau Plaid Cymru ac roedd hi'n gwneud y pwynt ei fod yn ymddangos ei fod ar sail rhyw.

"Mewn ffordd roedd rhai menywod yn ei chael hi'n waeth na dynion."

Dywedodd Mr Thomas ei fod ef ei hun yn wleidydd oedd yn "rhoi cymaint ag y gallai", ond fe gyhuddodd rai gweinidogion o ymddwyn yn annerbynniol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AC Llafur Julie James wedi wfftio honiadau Simon Thomas

"Mae'n rhaid i mi fod yn ddiplomatig gyda fy ateb achos dyw'r Llywydd heb ddyfarnu bod unrhyw beth o'i le," meddai.

"Ond dwi yn meddwl yn bersonol fod y ffordd mae Alun Davies yn gweiddi ar rai aelodau yn annerbyniol. Ond mae hynny'n fater ar gyfer y Llywydd."

Ond mynnodd Ms James: "Mae'n anffodus iawn fod Simon Thomas yn tanseilio dyfarniad y Llywydd yn y fath fodd.

"Dyw hi hefyd ddim yn fuddiol i unrhyw un sydd wir eisiau mynd i'r afael â materion rhyw i honni fod y sylwadau yma ond yn cael eu gwneud gan ddynion tuag at fenywod."