Wood yn cyhuddo gweinidogion o 'sylwadau nawddoglyd'
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud sylwadau personol, nawddoglyd ac amhriodol tuag at ACau Plaid Cymru yn ddiweddar, yn ôl arweinydd y blaid.
Dywedodd Leanne Wood fod yr ymddygiad honedig dros yr wythnosau diwethaf yn ymostwng y Cynulliad.
Ychwanegodd bod ymosodiad "chwerthinllyd" gan y prif weinidog Carwyn Jones, ble wnaeth e ei chymharu i Jacob Rees-Mogg, yn "sarhad personol".
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Mr Jones wedi bod yn treulio'r dydd ar Ynys Môn yn "gweithio gyda phobl o wahanol bleidiau gwleidyddol a phob math o gefndiroedd i geisio sicrhau bargen well i gymunedau Cymru".
"Dyna sut mae gweithredu'r dull gwell, mwy cydweithiol mae'r prif weinidog wedi bod yn siarad amdano. Mae llythyr arweinydd Plaid Cymru'n edrych fel ymateb anffodus i gynnig diffuant."
'Tôn annerbyniol'
"Rydw i'n ysgrifennu atoch gan fod y patrwm yma o ymddygiad yn ymostwng ein sefydliad a swyddfeydd y wladwriaeth rydych chi ynddynt ar hyn o bryd," meddai Ms Wood mewn llythyr i'r prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru.
Dywedodd ei bod yn "siomedig tu hwnt" fod rhywfaint o'r hyn yr oedd wedi cyfeirio ato wedi digwydd ar ddiwrnod pan alwodd Mr Jones am "wleidyddiaeth sy'n fwy caredig a thecach".
Roedd Mr Jones wedi cymharu Ms Wood, wnaeth ymgyrchu i aros yn yr UE, â'r AS Ceidwadol sydd yn gadarn o blaid Brexit yn ystod ffrae am Fesur Ymadael yr UE yn sesiwn Holi'r Prif Weinidog ddydd Mawrth.
Yn ôl Mr Jones roedd defnydd Ms Wood o eiriau fel "ildio" a "bradychu" wrth drafod y mater yn ymdebygu i Mr Rees-Mogg.
Ond mynnodd arweinydd Plaid Cymru ei fod yn "ymosodiad personol chwerthinllyd".
"Doedd hyn ddim yn ymgais i ymateb i'r materion neu gwestiynau a godais, ond i wneud cymhariaeth roeddech chi'n teimlo fyddai'n sarhad personol," meddai.
Ychwanegodd Ms Wood fod yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies wedi ymddwyn yn "nawddoglyd a diraddiol" tuag at Bethan Sayed, AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, pan ddywedodd: "Wel, falle nad yw'r aelod eisiau gwrando, falle dyna pam ei bod hi wedi drysu."
Ar y pryd roedd Mr Davies yn ateb cwestiwn gan yr AC Llafur, David Rees am garchardai.
Fe wnaeth Ms Wood hefyd honni fod ymateb gan y Cwnsel Cyffredinol Jeremy Miles, ble ddywedodd fod arweinydd Plaid Cymru wedi "camddeall" y cytundeb rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ar Brexit, wedi "methu ag ymateb i fy nghwestiwn mewn modd urddasol a sylweddol".
"Dyw ymateb felly i aelodau yn y Siambr, yn enwedig y dôn gafodd ei defnyddio tuag at aelodau benywaidd, ddim yn dderbyniol a ddylai hynny ddim cael parhau na datblygu ymhellach," meddai.
"Fe fydden i'n gwerthfawrogi petaech chi'n cymryd yr amser i esbonio wrth eich cabinet beth 'dych chi'n ei ystyried fel ymddygiad priodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018
- Cyhoeddwyd10 Mai 2018
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018