Cyhoeddi'r bandiau sy'n perfformio ym Maes B Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Yr Eira fydd yn cloi nos Sadwrn olaf Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.
Mae'r grŵp o Fangor yn dweud fod cael ei dewis ar gyfer y slot yn "fraint" ac y dylai'r dorf ddisgwyl perfformiad ychydig yn wahanol.
Dywedodd prif leisydd y band, Lewys Wyn: "Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r slot yma wedi tyfu i fod yn un o nosweithiau, os nad noswaith fwyaf cofiadwy'r calendr Cymraeg, felly mae'n fraint cael headlinio'r noson.
"Dydyn ni ddim yn fand sy'n mynd i dorri unrhyw records fel Yws Gwynedd y llynedd, ond dwi'n siŵr y bydd 'na ambell syrpreis cyffrous iawn eleni, felly dewch â'ch nain, taid a'ch bochdew, gan y bydd hwn yn barti i'w gofio!"
Yn ogystal â'r Eira mae trefnwyr Maes B wedi cyhoeddi gweddill y bandiau fydd yn perfformio yn ystod yr wythnos ym mis Awst.
Daeth cyhoeddiad fis diwethaf mai yn hen adeilad Profiad Dr Who ym Mae Caerdydd fydd Maes B yn cael ei chynnal eleni.
Y bandiau fydd yn cloi'r nosweithiau eraill yw Band Pres Llareggub ar y nos Fercher, Yr Ods nos Iau, ac Y Reu ar y nos Wener.
Yn ôl y trefnydd Guto Brychan mae'r "lein-yps yn gryf ac amrywiol eleni, sy'n cyfuno rhai o enwau mawr y sîn gydag artistiaid mwy newydd".
Ychwanegodd bod y nosweithiau yn rhoi blas o'r "holl fathau gwahanol o gerddoriaeth sydd yn y sîn ar hyn o bryd."
"Mae Maes B yn llwyfan pwysig iawn i'r sîn Gymraeg, ac yn gyfle i'r gynulleidfa glywed bandiau newydd ac amgen ar yr un lein-yp â bandiau adnabyddus, ac mae hyn yn beth iach ac yn dda iawn i'r sîn," meddai.
Eleni hefyd bydd gweithdai yn cael eu cynnal ym mis Mehefin sy'n rhan o brosiect newydd rhwng Maes B a Chlwb Ifor Bach, gyda'r bwriad o dargedu merched rhwng 16-25 oed sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth.
Lein-yp cyflawn Maes B 2018:
Nos Fercher, 8 Awst: Band Pres Llareggub, Y Cledrau, Cadno, Gwilym
Nos Iau, 9 Awst: Yr Ods, HMS Morris, Omaloma, Serol Serol
Nos Wener, 10 Awst: Y Reu, Mellt, Chroma, Los Blancos
Nos Sadwrn, 11 Awst: Yr Eira, Cpt Smith, Adwaith, Enillwyr Brwydr y Bandiau
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2017