Gangiau cyffuriau o Loegr yn 'defnyddio pobl fregus'
- Cyhoeddwyd
Mae pryder ynglŷn â'r diffyg ymwybyddiaeth o gangiau o ddinasoedd yn Lloegr sy'n manteisio ar bobl ifanc a bregus i werthu cyffuriau caled mewn trefi rhanbarthol yng Nghymru, yn ôl ymchwil gan y BBC.
Clywodd rhaglen materion cyfoes BBC Cymru, Wales Investigates bod y gangiau'n gweithredu llinellau ffonau symudol i werthu heroin a crack cocên yn uniongyrchol i gwsmeriaid yng Nghymru.
Mae'r arfer o groesi ffiniau siroedd gan ddefnyddio ffonau symudol cyfrinachol yn cael ei adnabod fel 'county lines' gan yr awdurdodau.
Mae gangiau mewn dinasoedd fel Lerpwl, Llundain, Manceinion a Birmingham yn defnyddio pobl fregus a phlant mor ifanc â 13 oed i gludo a gwerthu cyffuriau ar eu rhan mewn trefi rhanbarthol - yn aml mewn trefi arfordirol.
Bydd y gangiau yn defnyddio bygythiadau a thrais i orfodi'r rhedwyr ifanc i weithio ar eu rhan.
Beth yw 'County Lines'?
Wrth i'r farchnad gyffuriau newid, mae defnyddwyr heroin a crack cocên mewn trefi rhanbarthol bellach yn galw ffonau symudol penodol i archebu eu cyffuriau'n ddyddiol.
Fe gaiff y ffonau hyn eu hateb gan gangiau yn y dinasoedd mawr yn Lloegr. Yna, fe fydd y gangiau'n derbyn archebion, cyn cysylltu gydag aelodau ifanc sydd ar lawr gwlad yn y trefi rhanbarthol yn barod, er mwyn trosglwyddo'r cyffuriau i'r defnyddwyr - a derbyn yr arian.
Mae hyn yn golygu fod arweinwyr y gangiau yn cadw'n bell i ffwrdd o'u cwsmeriaid - gan adael i eraill wynebu'r perygl o gael eu dal.
Bydd y rhedwyr yn y trefi hyn yn derbyn ailgyflenwadau o gyffuriau o'r dinasoedd yn ddyddiol mewn llawer o achosion, ac fe gaiff yr elw ei gludo'n ôl i'r ddinas.
Enw ar y dull yma o werthu ydi 'county lines', gan ei fod yn croesi ffiniau siroedd, ac yn defnyddio ffonau symudol cyfrinachol penodol.
Fe wnaeth Wales Investigates gyfarfod cyn-smyglwr cyffuriau o Lerpwl, Paul Walmsley, oedd yn arfer bod ar restr y prif droseddwyr yr oedd yr heddlu am ei ddal cyn iddo ildio i'r awdurdodau a derbyn dedfryd o 10 mlynedd o garchar.
Mae nawr yn gweithio gyda phlant sydd mewn perygl o gael eu defnyddio gan gangiau cyffuriau.
Dywedodd wrth y rhaglen fod angen gwneud mwy i atal pobl ifanc rhag cael eu dylanwadu.
"Mae codi ymwybyddiaeth yn hanfodol - gwneud pobl yn ymwybodol ohono. Dydych chi ddim yn mynd i'w stopio, mae'n mynd i barhau - ond i wneud pobl yn ymwybodol fod 'na ffordd allan - dyna'r ateb.," meddai.
"Ond rhaid i'r neges fod yn yr ysgolion ar hyd y gogledd-orllewin ac ar draws Cymru a gogledd Cymru, a'r ardaloedd hynny lle mae'r plant hyn yn cael eu hanfon."
Mae rhaglen Wales Investigates wedi siarad gyda bachgen 16 oed oedd wedi dechrau gwerthu cyffuriau caled i gang o Lerpwl ar hyd a lled Prydain pan oedd yn ddim ond 13 oed.
Mae effaith a dylanwad y gangiau i'w weld yn amlwg mewn un uned ddiogel i blant yn ne Cymru - uned sy'n gwarchod plant sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio neu sydd wedi troseddu.
Dywedodd rheolwr yr uned, Gerald Walker wrth y rhaglen fod troseddau gwerthu cyffuriau oedd yn gysylltiedig â 'county lines' wedi tyfu i fod y mwyaf amlwg o gymharu gyda throseddau yr oedd pobl ifanc yn arfer eu cyflawni yn y gorffennol.
"Rwy'n credu nad yw'r cyhoedd yn wirioneddol ymwybodol o'r hyn y mae county lines yn ei olygu," meddai.
"O fewn Cymru ac ardaloedd penodol efallai nad oes ganddo ni'r gangiau, ond mae gangiau yn dod i mewn i ardaloedd, trefi glan mor, dinasoedd bychain ac yn recriwtio ein pobl fwyaf bregus i weithio ar werthu cyffuriau county lines".
Gofynnodd Wales Investigates i bob un o'r 22 cyngor yng Nghymru os oedd ymgyrchoedd penodol wedi eu cynnal i ddisgyblion ysgolion i godi ymwybyddiaeth o beryglon 'county lines'.
Allan o'r 18 cyngor i ymateb, dim ond dau gyngor - Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg - oedd wedi cynnal gweithgareddau codi ymwybyddiaeth benodol am y broblem i ddisgyblion.
Dywedodd Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru fod y sefyllfa yn fygythiad difrifol i blant a phobl ifanc a bod angen mynd i'r afael a'r broblem, ond bod yn well gwneud hynny drwy weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill fel yr heddlu a chyrff gwirfoddol.
Ychwanegodd y gymdeithas fod gan gyrff Cymraeg record gref o gydweithio.
Nid pob defnyddiwr cyffuriau caled sy'n croesawu'r gangiau i drefi Cymru - yn enwedig gan fod aelodau ifanc y gangiau yn cuddio'n aml mewn tai pobl fregus a gwerthu oddi yno.
Fel y gwcw'n dwyn y nyth, mae'r heddlu'n galw'r arfer yn 'cuckooing'.
Dull 'annheg'
Ym Mangor, dywedodd Dave, sy'n ddefnyddiwr heroin achlysurol, wrth y rhaglen fod y dull o fanteisio ar y mwyaf bregus yn annheg.
"Dwi'm yn gweld o'n fair ar y bobl sy'n byw yn y fflatia 'ma, ond dwi'n meddwl bo nhw isho cyffuria' - dyna pam maen nhw'n gadael nhw i mewn de, i gael be' maen nhw isho am y diwrnod neu chydig o bres ond dwi'n meddwl na'r cyffuria' maen nhw isho.
"Ond 'sw ni'm yn neud hynna - dydi o ddim yn iawn. Dwi'n meddwl dylia nhw fynd yn ôl i lle mae nhw'n dod - Lerpwl a Manchester a hynna de - aros ar eu doorstep eu hunain yn lle dod i fama - a dod a trwbwl yma."
Mae 'na elw mawr i'w wneud o reoli ffôn symudol i werthu heroin a crack cocaine - gyda gangiau'n gallu gwneud hyd at £3,000 y diwrnod yn ôl yr heddlu.
Mae'r arfer o redeg llinell 'county line' ar gynnydd - gyda 1,000 o linellau ffôn yn nwylo gangiau ar draws Prydain.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod strategaeth mewn lle i fynd i'r afael â'r broblem, a bydd £3.6m yn cael ei wario ar ddatblygu canolfan genedlaethol i gydlynu'r gwaith o geisio rheoli'r broblem.
BBC Wales Investigates: 'Gangs, Murder and Teenage Drug Runners', BBC One Wales, 21:00 nos Fercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2018