Clwb Criced Morgannwg ddim yn gorfod ad-dalu dyled
- Cyhoeddwyd
Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gofyn i Glwb Criced Morgannwg ad-dalu dyled gafodd ei waredu gan yr awdurdod, er i'r clwb dderbyn taliad dadleuol gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (EBC).
Fe wnaeth y cyngor waredu gwerth £4.4m o ddyled yn 2015 er mwyn helpu i achub y clwb.
Mae eu dyled wedi lleihau'n sylweddol ers hynny, diolch yn rhannol i daliad o £2.5m gan yr ECB. Amod y cytundeb oedd nad oedd Morgannwg yn cael gwneud ceisiadau i gynnal gemau prawf.
Mae'r cyngor yn dweud bod y rhesymau "sylfaenol" dros waredu'r ddyled yn parhau a'u bod yn falch fod Morgannwg nawr mewn sefyllfa ariannol fwy sefydlog.
'Syfrdanu'
Ond mae cynghorwyr Ceidwadwyr Cyngor Caerdydd yn dweud y bydd trethdalwyr "wedi'u syfrdanu" na fydd yr awdurdod lleol yn cael budd o'r arian.
Fe gafodd Morgannwg yr arian am eu bod wedi cytuno i beidio gwneud cais i gynnal gemau prawf Lloegr rhwng 2020 a 2024.
Ond un o'r rhesymau y cafodd £4.4m - 70% o'r hyn oedd yn ddyledus - ei waredu yn 2015 oedd bod y clwb mewn dyled ar ôl buddsoddi yn ei stadiwm i'w wneud yn safon ryngwladol.
Dywedodd Morgannwg bod peidio â gwneud cais am gemau prawf yn "benderfyniad strategol" a'u bod am ganolbwyntio ar ddenu gemau undydd i'r ddinas.
Bydd y clwb yn cynnal gêm 20 pelawd Lloegr pob haf rhwng 2020 a 2024, a gêm undydd ryngwladol yn 2021, 2023 a 2024.
Dywedodd aelod cabinet Cyngor Caerdydd ar gyfer materion economaidd, Chris Weaver wrth raglen Wales Live bod "angen" gwaredu'r ddyled yn 2015.
"Y peth pwysig yw bod gennym ni stadiwm yng nghalon y ddinas fydd yn dod â budd economaidd i'n holl drigolion dros y blynyddoedd i ddod," meddai.
Ychwanegodd fod gwaredu'r ddyled yn "benderfyniad anodd" ond angenrheidiol fel bod y clwb mewn sefyllfa well.
Dywedodd ffynhonnell o'r cyngor y byddai'r awdurdod yn gallu dechrau trafodaeth am geisio cael arian yn ôl gan y clwb pe bai eisiau.
'Partneriaeth unochrog'
Ychwanegodd ei fod yn hapus y byddai'r clwb yn cynnal gemau undydd rhwng 2020 a 2024.
Ond dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr ar y cyngor, Adrian Robson bod y sefyllfa yn annheg ar gyfer trethdalwyr.
"Fe roddodd y cyngor gefnogaeth ariannol i Glwb Criced Morgannwg yn ystod cyfnod anodd, ond nawr bod y clwb yn dechrau troi cornel, y rhai cyntaf i gael budd yw'r banc," meddai.
"I lawer mae'n edrych fel partneriaeth unochrog, a'r cyngor sy'n colli allan."
Mae adolygiad yn cael ei gynnal i'r taliad o £2.5m gan yr ECB i Forgannwg, ac oherwydd hynny dywedodd y clwb nad oedden nhw mewn sefyllfa i wneud sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2018