Golwr Abertawe, Lukasz Fabianski eisiau gadael y clwb

  • Cyhoeddwyd
FabianskiFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymunodd Lukasz Fabianski gyda Abwertawe o Arsenal am ddim yn 2014

Mae adran chwaraeon BBC Cymru ar ddeall fod golwr Abertawe, Lukasz Fabianski wedi gofyn i gael gadael y clwb.

Fe wnaeth y gŵr o Wlad Pwyl ymuno gyda'r Elyrch o Arsenal am ddim yn 2014, ac mae wedi chwarae 149 o weithiau ar gyfer Abertawe.

Cafodd ei enwi'n chwaraewr y flwyddyn gan y cefnogwyr yn sgil ei berfformiad y tymor hwn.

Er bod gan Fabianski flwyddyn yn weddill ar ei gytundeb, mae'n awyddus i barhau i chwarae ar y "lefel uchaf".

Mae Abertawe wedi bod yn disgwyl i glybiau eraill ddangos diddordeb yn eu prif chwaraewyr ers i'w cyfnod yn yr uwch gynghrair ddod i ben.

Mae'r amddiffynnwr Alfie Mawson wedi denu diddordeb gan glybiau fel West Ham, ond dyw Abertawe ond yn fodlon gwerthu Mawson a Fabianski am y pris cywir.

Mae'r chwaraewr canol cae Ki Sung-yueng a'r amddiffynnwr Angel Rangel eisoes wedi gadael y clwb, ac mae Leon Britton wedi ymddeol.