Cytundeb recordio i ferch ysgol o Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
elanFfynhonnell y llun, Ray Burmiston
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Elan ei bod wedi ennill cytundeb recordio gyda Decca ar y rhaglen 'This Time Next Year'

Mae Elan Catrin Parry o Wrecsam yn gantores 15 oed sydd, yn ôl rhai, â dyfodol disglair o'i blaen ar ôl iddi gael ei harwyddo gan label Decca Records.

Roedd Elan, sy'n ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd, yn ymddangos ar y rhaglen This Time Next Year gyda Davina McCall ar ITV nos Fawrth, 15 Mai.

Syniad y rhaglen yw gosod targed o flwyddyn i rywun droi eu breuddwyd yn realiti, ac yn achos Elan cael cytundeb recordio oedd yr amcan.

Dywedodd y mezzo-soprano wrth Cymru Fyw: "Dwi dal methu coelio mod i wedi cael y cytundeb yma i ddweud y gwir.

"Ges i'r cynnig am gytundeb cyn y sioe felly o'n i'n gwybod i raddau bod o am ddod, ond roedd rhaid imi weithio drwy gydol y flwyddyn amdano.

"Ges i gyfweliad gyda Decca Records yng Nghaerdydd yn ystod yr haf cyn diwethaf. Ond ddoe daeth y cyhoeddiad mod i wedi cael cytundeb efo nhw.

"O'n i'n nerfus ofnadwy yn perfformio ar y rhaglen am y tro cyntaf blwyddyn yn ôl, efallai achos nes i berfformio cân am y tro cyntaf. Ond ro'n i'n teimlo dipyn yn well eleni.

"Roedd Davina mor neis ac roedd yn hawdd siarad efo hi, o feddwl bod ni ar y teledu."

Disgrifiad o’r llun,

Elan gyda Davina McCall ar lwyfan y sioe 'This Time Next Year'

Cefnogaeth

"Mae pawb wedi bod mor gefnogol - fy nheulu, ffrindiau a phawb yn yr ysgol hefyd," meddai Elan.

"Dwi 'di cael gwahoddiad i berfformio yn yr Albert Hall mis Hydref, gan ganu gyda Chôr Meibion Cymry Llundain. Mae hynny yn rhywbeth enfawr a dwi'n edrych ymlaen at hynny."

Decca Records oedd y label recordio a arwyddodd cantores arall o Gymru yn 2003, Katherine Jenkins.

"Dwi'n dallt efallai y bydd cymariaethau ond dwi'n trio gwneud 'peth fy hun'," meddai Elan.

Mae'r Rolling Stones, sydd yn perfformio yng Nghaerdydd ar Fehefin 15, hefyd gyda Decca Records.

'Cymryd pob cyfle'

"Mae gen i arholiad TGAU Saesneg Llên dydd Llun, ac wrthi'n astudio ar hyn o bryd. Mae gen i chwe arholiad gyda lot mwy flwyddyn nesa.

"O ran y canu dwi jest am gymryd pob cyfle a thrio gwneud gymaint a dwi'n gallu yn y blynyddoedd nesaf. Dwi'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol mis Awst eleni ac efo'r côr yn yr Urdd."

Disgrifiad o’r llun,

Elan yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái 2017.

"Dwi'm yn gwrando ar y math o gerddoriaeth dwi'n ganu fel arfer, ond dwi wastad 'di canu pethau tebyg oherwydd y Steddfod.

"Mae'n debyg fydda i'n cadw at yr un steil am rŵan, ond byswn i ddim yn meindio trio pethau gwahanol hefyd.

"Does 'na ddim cynlluniau na rhywbeth penodol dwi eisiau ei wneud ar hyn o bryd, dwi jest yn cymryd pethau fel y daw nhw ac yn mwynhau."