Dim cynrychiolaeth o Gymru ar bwyllgor Ewropeaidd
- Cyhoeddwyd
Dyw Cymru ddim wedi ei chynrychioli ar gorff Undeb Ewropeaidd ers hanner blwyddyn oherwydd oedi yn y broses gofrestru.
Mae tri o'r pedwar sydd wedi'u henwebu i gynrychioli Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau yn parhau i ddisgwyl am sêl bendith gan Lywodraeth y DU ar ôl cael eu henwebu ym mis Tachwedd.
Dywedodd un o'r rheiny sy'n aros, Mick Antoniw AC, fod gwleidyddion o Gymru wedi "methu cyfle mawr" i fagu perthnasau ar ôl Brexit gyda phartneriaid Ewropeaidd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae enwebiadau yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd ac rydym yn disgwyl i'r broses gael ei chwblhau yn fuan, gan alluogi aelodau newydd i gyfrannu i waith y Pwyllgor ac adeiladu perthnasau gyda chydweithwyr o'r UE cyn y sesiwn lawn ym mis Gorffennaf."
'Siomedig iawn'
Mae Pwyllgor y Rhanbarthau yn gynulliad o wleidyddion lleol a rhanbarthol o bob rhan o'r Undeb Ewropeaidd gafodd ei sefydlu yn 1994.
O ystyried faint o ddeddfau'r UE sy'n cael eu gweithredu ar lefel lleol a rhanbarthol, pwrpas y corff yw rhoi cyfle i'r cynrychiolwyr gael llais wrth ddatblygu deddfwriaeth newydd.
Mae disgwyl i'r DU adael y pwyllgor pan fydd y wlad yn gadael yr UE ym mis Mawrth 2019.
Mae Cymru wedi enwebu dau Aelod Cynulliad - Mick Antoniw o'r blaid Lafur a Bethan Sayed o Blaid Cymru - a dau gynrychiolydd o lywodraeth leol - arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, a dirprwy arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Anthony Taylor.
Ms Sayed yw'r unig un o'r rheiny sydd wedi'u henwebu i'r pwyllgor sydd wedi cael sêl bendith gan Lywodraeth y DU hyd yn hyn.
Mae'n golygu nad ydyn nhw wedi gallu mynychu cyfarfod y pwyllgor dros ddeuddydd yr wythnos hon, na chyfarfodydd eraill chwaith.
Dywedodd Mr Antoniw, AC Pontypridd ei fod yn "siomedig iawn" ar ôl cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU y byddai'n broses "gyflym".
"Ar hyn o bryd mae trafodaethau rhwng y rheiny ar Bwyllgor y Rhanbarthau gyda gwledydd eraill ac aelodau eraill ynglŷn â sut allwn ni barhau gyda rhai o'r cysylltiadau pwysig sydd gennym ni o ran addysg, arloesi ac ymchwil, y berthynas rhwng dinasoedd, a system trafnidiaeth ar draws Ewrop," meddai.
"Mae'r rheiny'n bethau pwysig iawn i ni yng Nghymru ac rydyn ni eisiau parhau i gael yr un math o berthynas unwaith 'dyn ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.
"Felly tra bod y trafodaethau hynny'n digwydd, does gan Gymru ddim llais."
'Ddim yn dylanwadol'
Dywedodd Dr Anwen Elias, darlithydd mewn gwleidyddiaeth ranbarthol ym Mhrifysgol Aberystwyth fod y pwyllgor yn bwysig i Gymru am mai "dyma'r unig gorff ble mae cynrychiolaeth o Gymru wedi'i warantu".
Ond ychwanegodd nad oedd rheidrwydd ar Gomisiwn Ewrop neu Gyngor yr UE i wrando ar farn Pwyllgor y Rhanbarthau, ac felly nad oedd wedi bod yn "gorff dylanwadol" ar lefel Ewropeaidd ar y cyfan.
Yn gynharach ym mis Mai fe wnaeth Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford ysgrifennu at Weinidog Brexit Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Callanan yn gofyn iddyn nhw ddatrys yr oedi "cyn gynted â phosib".
Ychwanegodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei bod yn gobeithio gweld yr enwebiadau'n cael eu derbyn yn fuan "fel bod y DU'n gallu manteisio'n llawn ar fanteision aelodaeth cyn i ni adael yr Undeb Ewropeaidd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018
- Cyhoeddwyd15 Mai 2018