Charteris, Francis ac Adams allan o daith haf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Luke CharterisFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae clo Caerfaddon Luke Charteris ymhlith y tri fydd ddim yn teithio i'r Unol Daleithiau

Mae Warren Gatland yn dweud ei fod yn "siomedig iawn" na fydd tri chwaraewr oedd wedi eu cynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer eu taith haf eleni yn gallu teithio gyda'r garfan wedi'r cyfan.

Fydd Luke Charteris, Tomas Francis na Josh Adams ddim yn teithio i'r Unol Daleithiau i wynebu De Affrica ar 2 Mehefin, oherwydd eu bod yn chwarae i glybiau yn Lloegr.

Dywedodd y corff sy'n cynrychioli clybiau Lloegr, Premiership Rugby Limited (PRL), nad yw'r tri yn gymwys i chwarae gan fod y gêm yn cael ei chynnal y tu allan i ffenestr swyddogol rygbi rhyngwladol.

Mae Rhodri Jones, Ashton Hewitt ac Aaron Wainwright wedi eu galw i lenwi'r bylchau.

'Rhwystredig'

Mae'r BBC'n deall fod Undeb Rygbi Cymru'n rhwystredig fod y PRL wedi dewis defnyddio'r rheolau, er nad yw'r chwaraewyr wedi bod yn rhan o gemau i'w clybiau yn Lloegr ers dechrau Mai.

Er bod clo Caerfaddon (Charteris), prop Caerwysg (Francis), ac asgellwr Caerwrangon (Adams) yn gymwys i chwarae dros Gymru yn y ddau brawf arall yn erbyn Ariannin ar 9 a 16 Mehefin, mae angen i garfan Cymru fod ar gael am yr holl daith.

Mae hynny'n golygu fod Hewitt a Wainwright o'r Dreigiau a phrop y Gweilch, Jones wedi eu hychwanegu i'r garfan.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Warren Gatland ei fod yn "siomedig iawn" â phenderfyniad y PRL

Dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland ei fod yn siomedig iawn fod y tri yn golli'r cyfle i deithio gyda Chymru a chwarae rygbi rhyngwladol yr haf hwn: "Roedd hyn yn gyfle gwych iddyn nhw gynrychioli'u gwlad a gwneud eu marc mewn blwyddyn bwysig, ac mae'n drueni na fydd cefnogwyr yn cael eu gweld nhw yng nghrys coch Cymru.

"Mae'r sefyllfa'n eithaf clir i chwaraewyr yn Lloegr wrth edrych ymlaen ac anelu at flwyddyn Cwpan Rygbi'r Byd.

"Gyda'r chwaraewyr ddim ar gael i ymuno â'r garfan tan wythnos ein hail gem brawf, rydyn ni wedi gorfod llenwi eu bylchau yn y garfan."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Josh Navidi ei anafu ym muddugoliaeth y Gleision yn erbyn Caerloyw yng Nghwpan Her Ewrop

Un arall fydd ddim yn teithio gyda'r garfan yw Josh Navidi, a hynny oherwydd anaf yn dilyn buddugoliaeth y Gleision yn erbyn Caerloyw yng Nghwpan Her Ewrop.

Mae disgwyl i George North, fydd yn ymuno â'r Gweilch yn fuan a chefnwr newydd y Dreigiau, Ross Moriarty ddychwelyd i Gymru o Northampton a Chaerloyw, ac felly'r disgwyl yw y byddan nhw'n gymwys i fynd ar y daith.

Dywedodd llefarydd ar ran Northampton wrth BBC Cymru: "Rydym mewn trafodaethau agored gyda chynrychiolwyr George North i ddod â'i gytundeb gyda Northampton i ben yn gynnar fel ei fod yn gallu mynd ar daith Cymru yr haf hwn, gan ei fod yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor beth bynnag."

Bydd y daith yn gorffen ar 16 Mehefin gyda'r ail brawf yn erbyn Ariannin yn Santa Fe.

Carfan Cymru

Blaenwyr: Rob Evans (Scarlets), Wyn Jones (Scarlets), Nicky Smith (Gweilch), Elliot Dee (Dreigiau), Ryan Elias (Scarlets), Rhodri Jones (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Dillon Lewis (Gleision Caerdydd), Adam Beard (Gweilch), Bradley Davies (Gweilch), Seb Davies (Gleision Caerdydd), Aaron Wainwright (Dreigiau), Cory Hill (Dreigiau - Cyd-Gapten), James Davies (Scarlets), Ellis Jenkins (Gleision Caerdydd - Cyd-Gapten), Ross Moriarty (Caerloyw), Aaron Shingler (Scarlets).

Cefnwyr: Aled Davies (Scarlets), Gareth Davies (Scarlets), Tomos Williams (Gleision Caerdydd), Gareth Anscombe (Gleision Caerdydd), Rhys Patchell (Scarlets), Hadleigh Parkes (Scarlets), Owen Watkin (Gweilch), Scott Williams (Scarlets), Ashton Hewitt (Dreigiau), Hallam Amos (Dreigiau), Steff Evans (Scarlets), George North (Gweilch) , Tom Prydie (Scarlets).