Galw ar bleidiau eraill i gydweithio gyda'r Ceidwadwyr

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew RT Davies yn galw am 'fargen newydd i Gymru' i sicrhau nad yw'r Blaid Lafur yn parhau mewn grym

Mae angen i bleidiau gwleidyddol eraill fod yn barod i weithio gyda'r Ceidwadwyr er mwyn ffurfio llywodraeth newydd, yn ôl arweinydd y blaid yng Nghymru.

Yng nghynhadledd wanwyn y blaid yn Llanelli, dywedodd Andrew RT Davies bod unigolion talentog iawn tu hwnt i'r meinciau Ceidwadol yn y Cynulliad.

Wrth alw am "fargen newydd i Gymru", dywedodd fod angen sicrhau nad yw'r Blaid Lafur yn parhau mewn grym.

Mae Mr Davies eisoes wedi dweud y gallai gamu o'r neilltu yn y dyfodol er mwyn hwyluso clymblaid gyda Phlaid Cymru.

'Blaenoriaethu'r genedl'

Cafodd ymgais Llafur i ail-enwebu Carwyn Jones fel prif weinidog Cymru yn dilyn etholiad Cynulliad 2016 ei rwystro wedi i'r gwrthbleidiau uno i gefnogi arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Cafwyd pleidlais gyfartal rhwng Mr Jones a Ms Wood, ond wythnos yn ddiweddarach cafodd Mr Jones ei ailethol wedi i Lafur a Phlaid Cymru ddod i gytundeb.

Yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ddydd Gwener fe ddywedodd Mr Davies: "Tra'n ymwybodol o'r her, does dim ond dau beth sy'n rhwystro ni rhag datgloi cynnydd a ffyniant yng Nghymru.

"Un ydi cael gwared â'r Blaid Lafur ei hun, a'r llall yw'r rheiny sydd yn cydnabod mai Llafur ydi'r broblem - ond sydd methu gweithio gyda'r Torïaid er mwyn gwneud rhywbeth ynglŷn â'r peth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Leanne Wood wedi dweud na fyddai hi fyth yn ffurfio clymblaid gyda'r Ceidwadwyr

Wrth annerch aelodau'r blaid yng nghwrs rasio Ffos Las, fe ychwanegodd Mr Davies nad oes gan unrhyw un fonopoli ar y syniadau gorau.

"Er mwyn i ni gyflwyno'r agenda o newid bydd angen i ni flaenoriaethu ein diddordeb cenedlaethol cyn ein pleidiau," meddai.

"Mae arnom angen y gorau a'r mwyaf disglair yng Nghymru i weithio gyda'i gilydd, nid yn erbyn ei gilydd."

Brexit

Yn ôl Mr Davies mae'r misoedd diwethaf wedi dangos bod rhywbeth "yn bydredig" wrth galon Llywodraeth Cymru.

Wedi dau ddegawd mewn grym mae'n cyhuddo'r blaid Lafur yng Nghymru o fod yn "drahaus a hunanfodlon".

Bydd Brexit, medd Mr Davies, yn gyfle i Gymru greu cynlluniau newydd fydd o fudd i bobl Cymru, ac i newid cwrs.

Mae'n dweud fod y sefydliad yng Nghymru yn ymladd brwydr gafodd ei cholli bron i ddwy flynedd yn ôl.