Abertawe ddim am roi cytundeb newydd i Carlos Carvalhal

  • Cyhoeddwyd
Carlos CarvalhalFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau na fyddan nhw'n cynnig cytundeb newydd y tymor nesaf i'r rheolwr Carlos Carvalhal.

Fe benderfynodd y clwb na fyddan nhw'n adnewyddu'i gytundeb, sydd yn dod i ben yn yr haf, wedi i'r clwb ddisgyn o'r Uwch Gynghrair.

Llwyddodd y gŵr o Bortiwgal i arwain y tîm ar rediad cryf o ganlyniadau i ddechrau, ond yna fe aethon nhw naw gêm gynghrair heb ennill rhwng mis Mawrth a diwedd y tymor.

Mae'r Elyrch nawr yn chwilio am eu pumed rheolwr parhaol mewn dwy flynedd.

Chwaraewyr yn gadael

Roedd Carvalhal wedi dweud y byddai'n trafod ei ddyfodol gyda pherchnogion Abertawe, ond ddydd Gwener fe gadarnhaodd y clwb na fydd yn aros yn y swydd.

"Hoffem ddiolch i Carlos am ei frwdfrydedd, ei waith caled a'i ymroddiad ers dod i'r clwb ym mis Rhagfyr," meddai'r cadeirydd Huw Jenkins.

"Yn naturiol rydyn ni i gyd yn siomedig fod y clwb wedi disgyn o'r Uwch Gynghrair ac yn dilyn trafodaethau gyda Carlos, roedden ni'n teimlo y byddai'n well i'r ddwy ochr petawn ni'n symud i gyfeiriad gwahanol."

Fe gadarnhaodd y clwb fod y staff cynorthwyol Joao Mario, Bruno Lage, Jhony Conceicao a Paulo Sampaio, hefyd wedi gadael.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar un cyfnod roedd hi'n edrych fel bod Carvalhal wedi arwain Abertawe'n glir o'r tri safle gwaelod

Mae'r Elyrch nawr yn wynebu haf o ailadeiladu, gydag un o hoelion wyth y garfan Leon Britton yn cyhoeddi ei fod yn ymddeol ar ddiwedd y tymor.

Mae Angel Rangel a Ki Sung-yeung hefyd wedi gadael y clwb wedi i'w cytundebau ddod i ben, tra bod y golwr Lukasz Fabianski wedi dweud ei fod hefyd eisiau mynd.

Cyn gêm olaf y tymor yn erbyn Stoke, fe wnaeth cefnogwyr brotestio yn erbyn y cadeirydd Huw Jenkins a'r perchnogion Americanaidd Steve Kaplan a Jason Levien.

Mewn datganiad ar wefan y clwb dywedodd Kaplan a Levein eu bod yn "ysgwyddo llawer o'r cyfrifoldeb" am y ffaith fod y clwb wedi disgyn, ac nad oedd "strategaeth recriwtio" Abertawe wedi bod ddigon da.