Neil Hamilton wedi colli ei swydd drwy 'neges destun'

  • Cyhoeddwyd
Neil Hamilton

Mae Neil Hamilton wedi dweud y cafodd wybod ei fod wedi colli ei swydd fel arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad drwy neges destun.

Dywedodd Caroline Jones ddydd Iau bod mwyafrif y grŵp wedi ei chefnogi hi dros Mr Hamilton i arwain y criw o bump AC.

Ond dywedodd Mr Hamilton wrth BBC Radio Wales ddydd Gwener na chafodd pleidlais ffurfiol ei chynnal.

Ychwanegodd ei fod wedi cael "trafferth" deall pam fod y grŵp wedi ei ddisodli, gan ddweud fod y sefyllfa yn "benbleth" iddo.

Roedd Ms Jones wedi dweud yn gynharach bod y broses wedi bod yn "gyfeillgar".

'Dryslyd'

"Roedden ni i fod i drafod pryderon tri aelod oedd eisiau newid, yng nghyfarfod arferol y grŵp," meddai Mr Hamilton wrth raglen Good Evening Wales.

"Fe wnaethon ni gynnal y cyfarfod hwnnw, ac ychydig oriau'n ddiweddarach fe ges i neges destun yn dweud bod y tri ohonyn nhw wedi penderfynu bod Caroline am fod yn arweinydd."

Disgrifiad o’r llun,

AC Gorllewin De Cymru, Caroline Jones yw arweinydd newydd grŵp UKIP yn y Cynulliad

Ychwanegodd bod Ms Jones wedi egluro iddo'n ddiweddarach "nad oedd hi wedi cael unrhyw drafferthion gyda mi fel arweinydd y grŵp".

Dywedodd Mr Hamilton ei bod yn "ddryslyd" ei fod yn parhau'n arweinydd UKIP Cymru - rôl sy'n cael ei benodi gan arweinydd y blaid trwy'r DU - ond nid yn arweinydd grŵp y blaid yn y Cynulliad.

"Does dim plaid arall yn gweithio fel yma. Mae angen ailystyried sut mae'r arweinyddiaeth yng Nghymru'n cael ei ddewis," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn "dymuno'n dda" i Ms Jones.