'Dim ffrae' wrth newid arweinydd UKIP yn y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd newydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, Caroline Jones yn dweud fod y broses o drosglwyddo'r awenau rhyngddi hi a Neil Hamilton wedi bod yn "gyfeillgar".
Dywedodd Caroline Jones wrth BBC Cymru nad oes ffrae wedi bod rhwng y ddau ac y byddant yn cydweithio.
Bydd yntau meddai, yn canolbwyntio ar fod yn arweinydd y blaid yng Nghymru.
Cafodd Mr Hamilton ei ddisodli fel arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad yn dilyn pleidlais ymhlith ACau'r blaid.
Dywedodd Ms Jones, un o ACau rhanbarthol De Orllewin Cymru: "Fe fydd Neil yn canolbwyntio ar fod yn arweinydd Cymru ac fe fydda' i'n canolbwyntio ar y Cynulliad. Fe fydd yn fenter ar y cyd, mae'n sefyllfa lle mae pawb yn ennill."
"Mae gyda chi ddyn sy'n arwain yng Nghymru a menyw sy'n arwain yn y Cynulliad, ac fe fydd hynny'n golygu ein bod yn apelio at gynulleidfa ehangach".
Ychwanegodd nad yw'n meddwl y bydd cael dau arweinydd yng Nghymru yn "ddryslyd".
'Arddull wahanol'
Dywedodd Ms Jones hefyd bod "y drws ar agor" i'r AC rhanbarthol Mandy Jones ymuno â grŵp UKIP ym Mae Caerdydd, sydd â phum aelod ar hyn o bryd.
Pan ddaeth Mandy Jones yn AC yn dilyn ymddiswyddiad Nathan Gill, fe ddywedodd nad oedd eisiau bod yn rhan o grŵp UKIP yn y Cynulliad, gan honni fod rhai aelodau wedi ei bwlio.
Dywedodd Caroline Jones: "Mae gen i arddull wahanol ac fe fydd 'na newidiadau.
"Fe fyddaf yn siarad gyda staff UKIP yn y Cynulliad [ddydd Iau] - fe fydd newidiadau ond mae eu swyddi i gyd yn ddiogel.
"Rwyf eisiau edrych ar yr hyn rydyn yn ei wneud a gweld sut allwn ni ei wneud yn well."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2018