Rownd gynderfynol y Pro14: Glasgow 13-28 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Glasgow v ScarletsFfynhonnell y llun, SNS

Mae'r Scarlets wedi cyrraedd ffeinal y Pro14, gyda'u perfformiad gwych yn yr hanner cyntaf yn ddigon i drechu Glasgow yn Stadiwm Scotstoun nos Wener.

Cafodd y Scarlets ddechrau gwych i'r gêm, gyda'r maswr Rhys Patchell yn croesi am gais o fewn pedwar munud.

Wedi chwarter awr aeth y Cymry ymhellach ar y blaen, gyda Scott Williams a Gareth Davies yn cyfuno'n dda am gais i'r mewnwr.

Daeth trydydd cais y Scarlets wedi hanner awr, gyda gwrthymosod gwych gan yr olwyr yn creu cais hawdd i'r prop Rob Evans i'w gwneud yn 21-3 ar yr egwyl.

Leinster neu Munster?

Fe ddechreuodd y Scarlets yr ail hanner yn yr un modd a'r cyntaf, wrth i'r bachwr Ken Owens groesi am gais o sgarmes symudol.

Bu'n rhaid i'r tîm cartref ddisgwyl awr am eu cais cyntaf, gyda Jonny Gray yn sgorio ar ôl cymryd cic gosb sydyn.

Daeth ail gais i Glasgow 10 munud yn ddiweddarach wrth i'r canolwr Nick Grigg lwyddo i wthio ei hun trwy amddiffyn yr ymwelwyr a dros y llinell gais, ond roedd hi'n rhy hwyr i'r Albanwyr roi braw i'r Scarlets.

Dyma'r ail dro yn olynol i'r clwb o Lanelli gyrraedd y ffeinal, yn dilyn eu llwyddiant yn erbyn Munster y llynedd.

Tîm o Iwerddon fydd yn wynebu'r Scarlets yn y rownd derfynol unwaith eto eleni, gyda Leinster yn herio Munster ddydd Sadwrn i benderfynu pwy fydd y clwb arall yn Stadiwm Aviva yn Nulyn ar 26 Mai.