Curtis: 'Gallai Abertawe golli o leiaf 10 chwaraewr'
- Cyhoeddwyd
Fe allai Abertawe golli o leiaf 10 chwaraewr ar ôl syrthio o Uwch Gynghrair Lloegr, medd un o hoelion wyth y clwb, Alan Curtis.
Mae'r gôl-geidwad Lukasz Fabianski eisiau dilyn Ki Sung-yueng sy'n gadael, mae'r chwaraewr canol cae Leon Britton wedi ymddeol, a dydy cytundeb y capten Angel Rangel ddim wedi ei adnewyddu.
Mae'r Elyrch hefyd yn chwilio am reolwr newydd wedi'r cadarnhad bod Carlos Carvalhal yn gadael.
Dywedodd Curtis wrth BBC Cymru fod yn rhaid i olynydd Carvalhal "gael amser i ailadeiladu eto".
Ychwanegodd cyn ymosodwr Cymru y bydd hi'n anodd ailddarganfod yr arddull aeth ag Abertawe i'r Uwch Gynghrair rai blynyddoedd yn ôl.
"Ry'n ni wedi bod mewn sefyllfaoedd gwaeth na hyn. Mae pobl yn anghofio i ni bron â disgyn o'r gynghrair," meddai'r gŵr 64 oed.
"Felly ry'n ni wedi goroesi. Er ein bod ni wedi gweld hyn yn dod ychydig flynyddoedd yn ôl, mae'r holl beth yn ymddangos yn sydyn ac mae'n pennau ni'n troi ychydig o'r sioc.
"Fe fydd hi'n hen gynghrair anodd flwyddyn nesaf, ry'n ni'n gwybod hynny."
Ar ôl osgoi disgyn o'r gynghrair bêl-droed yn 2002-03, dechreuodd Abertawe ddringo drwy'r adrannau nes iddyn nhw gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr yn 2012.
Dywedodd Curtis fod yr arddull sy'n cael ei adnabod fel y "Swansea Way" wedi dechrau dan y cyn-reolwr Roberto Martinez, gymerodd yr awennau yn 2007, pan oedd y clwb yn yr Adran Gyntaf.
"Dwi'n credu y bydden ni gyd yn cytuno mai Roberto ddechreuodd y broses, ond, os cofiwch chi, fe ddechreuodd hynny yn yr Adran Gyntaf, ac fe gymerodd y broses ychydig o flynyddoedd," meddai.
"Fe allwch chi wneud camgymeriadau yn yr Adran Gyntaf a chewch chi ddim o'ch cosbi.
"Wrth i ni wella a chywreinio, fe aeth pobl ag e ymlaen ychydig bob tro.
"I adfer yr athroniaeth yna, yn amlwg rhaid i chi gael y chwaraewyr.
"Yn bwysicach, rhaid i chi gael hyfforddwr neu reolwr sydd eisiau gweithredu hynny - ond mae hynny'n mynd i fod yn anodd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd16 Mai 2018