Cymru'n dychwelyd i'r Cae Ras yn Wrecsam i hyfforddi
- Cyhoeddwyd
Mae tîm pêl-droed Cymru wedi bod yn cynnal sesiwn ymarfer agored ar y Cae Ras yn Wrecsam - y tro cyntaf iddyn nhw fod yno ers 2008.
Daeth torf sylweddol i weld y garfan yn ymarfer wrth baratoi i deithio i'r Unol Daleithiau i herio Mecsico yn Pasadena ar 29 Mai.
Daw'r sesiwn wedi i Ryan Giggs gwtogi ei garfan wreiddiol o 32 i lawr i 23 o chwaraewyr.
Ymhlith yr enwau i gael eu gadael allan o'r garfan derfynol mae Hal Robson-Kanu, George Williams ac Adam Matthews.
Roedd Robson-Kanu'n rhan allweddol o garfan Euro 2016 gan sgorio goliau pwysig yn erbyn Slofacia a Gwlad Belg, ond y tymor yma dim ond dwywaith mewn 23 gêm y llwyddodd i sgorio i'w glwb West Brom wrth iddyn nhw ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr.
Roedd Cymru eisoes heb wasanaethau Gareth Bale, Ben Woodburn a Danny Ward gan fod Real Madrid yn herio Lerpwl yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr, a Joe Allen oherwydd anaf.
Doedd James Chester na Neil Taylor yn y garfan chwaith wedi i Aston Villa gyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth.
Luke Pilling, Regan Poole, Joe Rodon, Cameron Coxe, Dan James a Marley Watkins yw'r chwaraewyr eraill sydd wedi'u torri o'r garfan.
Ond mae'n bosib y bydd pedwar chwaraewr yn ennill eu capiau cyntaf yn Stadiwm Rose Bowl, sef Adam Davies, Chris Maxwell, Matthew Smith a George Thomas.
Carfan derfynol Cymru v Mecsico
Golwyr: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Chris Maxwell (Preston North End), Adam Davies (Barnsley).
Amddiffynwyr: Ashley Williams (Everton), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Chris Gunter (Reading), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Declan John (Rangers), Connor Roberts (Abertawe), Christopher Mepham (Brentford), Ashley Richards (Caerdydd).
Canol Cae: Lee Evans (Sheffield United), Andy King (Caerlŷr), Ryan Hedges (Barnsley), Aaron Ramsey (Arsenal), Matthew Smith (Manchester City), Joe Ledley (Derby County), George Thomas (Caerlŷr).
Blaenwyr: Sam Vokes (Burnley), Tom Bradshaw (Barnsley), Tom Lawrence (Derby County), David Brooks (Sheffield United), Harry Wilson (Lerpwl).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2018