Cyfnod John Barclay gyda'r Scarlets ar ben wedi anaf
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth John Barclay anafu ei sawdl yn y fuddugoliaeth dros Glasgow nos Wener
Mae'r Scarlets wedi cadarnhau fod y chwaraewr rheng-ôl John Barclay wedi gadael y rhanbarth yn dilyn anaf.
Fe wnaeth yr Albanwr, 31, anafu ei sawdl yn y fuddugoliaeth dros Glasgow nos Wener wrth i'r Scarlets sicrhau eu lle yn rownd derfynol y Pro14.
Ag yntau eisoes wedi cytuno i ymuno â Chaeredin ar ddiwedd y tymor, bydd Barclay nawr yn dychwelyd i'r Alban i barhau â'i driniaeth.
Mae'n gadael y Scarlets wedi pum mlynedd yn Llanelli, a hynny ar ôl llwyddo i ennill cynghrair y Pro12 y tymor diwethaf.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bu'n gapten ar y tîm ar sawl achlysur, gan chwarae 107 o weithiau dros y rhanbarth a sgorio 14 cais.
Mae'r Scarlets yn wynebu Leinster yn Nulyn ddydd Sadwrn gan wybod y bydd buddugoliaeth yn sicrhau eu bod yn ennill y gynghrair am yr ail flwyddyn yn olynol.