Cae 'gwarthus' Glasgow'n effeithio ar baratoadau’r Scarlets
- Cyhoeddwyd
Mae'r Scarlets yn dweud bod eu paratoadau ar gyfer ffeinal y Pro14 wedi cael eu heffeithio gan losgiadau gafodd eu dioddef gan chwaraewyr yn y fuddugoliaeth dros Glasgow nos Wener.
Dywedodd yr asgellwr Steff Evans bod cae 4G Stadiwm Scotstoun yn "warthus", tra bo'r cefnwr Johnny McNicholl yn dweud na ddylai wyneb o'r fath fod yn gyfreithlon.
Ni wnaeth y Scarlets hyfforddi ddydd Llun oherwydd yr anafiadau gafodd eu dioddef, a dim ond rhai o'r chwaraewyr sy'n hyfforddi ddydd Mawrth.
Bydd y Scarlets yn herio Leinster yn rownd derfynol y Pro14 yn Stadiwm Aviva yn Nulyn ddydd Sadwrn.
Dywedodd Glasgow eu bod yn "gwbl hapus" gyda'r cae, a'i fod yn cydymffurfio â chanllawiau World Rugby.
Ond yn ôl prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, roedd y cae yn "wael iawn", ac mae eu chwaraewyr wedi dioddef "nifer o losgiadau gwael".
'Sgriffiadau a phothelli'
"Roedd wyneb y cae yn wael iawn - roedd yn sych ac fe gafodd y bois eu llosgi ganddo," meddai Pivac.
"Dydw i ddim yn siŵr beth mae timau eraill wedi'i gael, ond mae gennym ni sgriffiadau a phothelli gwael.
"Dyw e ddim yn rhywbeth fyddai'n eu hatal rhag chwarae, ond mae'n bell o fod yn ddelfrydol."
Ychwanegodd Evans ei fod yn wyneb "cwbl wahanol" i'r caeau artiffisial mae wedi chwarae arnynt ym Mharc yr Arfau a stadiwm Saracens, Parc Allianz.
"Fe fydd y briwiau yma gennai am dipyn. Mae'r cae 4G 'na yn galed," meddai asgellwr Cymru.
"Doedd y tywydd ddim yn helpu chwaith. Roedd fel chwarae ar garped. Roedd e'n warthus."
'Effeithio ar eich cymalau'
Dywedodd McNicholl mai dyma'r tro cyntaf iddo chwarae ar gae artiffisial, a'i fod wedi cael "dwsin o losgiadau".
"Mae'n dda dan droed pan chi'n rhedeg, ond unwaith chi'n mynd i'r llawr mae'n effeithio ar eich cymalau hefyd," meddai'r cefnwr.
"Ar ddiwrnod sych mae'n mynd yn dwym ac yn teimlo fel carped.
"Fe ddywedais i wrth eu hyfforddwr nhw 'mod i'n meddwl y dylai'r cae 'ma fod yn anghyfreithlon."
Un fydd ddim yn chwarae rhan yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn yw'r chwaraewr rheng ôl, John Barclay, a hynny wedi iddo anafu ei sawdl yn y fuddugoliaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2018
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018