Trafod gyda Graham Potter am swydd rheolwr Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cynnal trafodaethau gyda rheolwr Ostersunds o Sweden, Graham Potter, wrth chwilio am eu rheolwr newydd.
Mae'r Elyrch, a ddisgynnodd o Uwch Gynghrair Lloegr wedi saith mlynedd yn y brif adran, wedi siarad gyda nifer o ymgeiswyr posib ers ymadawiad Carlos Carvalhal.
Mae sawl enw wedi bod dan ystyriaeth, gan gynnwys cyn-reolwr Crystal Palace ac Ajax, Frank de Boer, a chyn-reolwr Reading, Jaap Stam.
Ond credir bellach mai Potter, Sais 43 oed, sydd ar y blaen yn y ras am y swydd.
Daeth Potter i sylw nifer o glybiau yn Lloegr wedi ei orchestion gyda chlwb Ostersunds.
Arweiniodd Potter y clwb o bedwareddd adran Sweden i'r brif adran, ac yna i Gynghrair Europa eleni, ac mae Potter wedi cael clod am steil chwarae y tîm.
Ar raglen y Post Cyntaf, dywedodd cyn chwaraewr Abertawe a Chymru, Owain Tudur Jones: "Dwi'n cofio chwarae yn erbyn Ostersunds gydag Abertawe mewn gemau pre-season, ac roedden ni'n eu curo nhw saith, wyth i ddim, felly mae'r newid o dan Graham Potter fel rheolwr yn anhygoel.
"Mae o'r math o reolwr y dylai Abertawe fod yn mynd ar ei ôl o."