Plaid Cymru'n galw fforwm trafod Brexit yn 'siop siarad'
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi mynegi pryderon fod fforwm newydd i roi cyfle i Lywodraeth Cymru gyfrannu at safbwynt trafod y DU ar Brexit yn "ddim mwy na siop siarad".
Mae gweinidogion Cymru wedi croesawu'r Fforwm Gweinidogol newydd, ar ôl galw ers sbel am rôl fwy ffurfiol yn y trafodaethau a'r UE.
Y Gweinidog Tai, Rebecca Evans fydd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ar y fforwm newydd, wnaeth gyfarfod yng Nghaeredin ddydd Iau.
Dywedodd Plaid Cymru fodd bynnag eu bod yn siomedig nad oedd prif lais y llywodraeth ar Brexit, Mark Drakeford wedi'i benodi i'r fforwm.
'Croesawu'
Bydd Mr Drakeford yn parhau i fynychu cyfarfodydd y Cydbwyllgor Gweinidogol (JMC) yn ymwneud â Brexit yn ogystal â gweinidogion o lywodraethau'r DU a'r Alban, a swyddogion o Ogledd Iwerddon.
Ond mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi galw am sefydlu Cyngor o Weinidogion y DU i gymryd lle'r JMC, rhywbeth mae ef ei hun wedi'i ddisgrifio fel "siop siarad" yn y gorffennol.
Mewn datganiad yn cyhoeddi'r Fforwm Gweinidogol dywedodd Mr Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, y byddai'n gyfle i'r sefydliadau datganoledig gael mwy o lais yn y trafodaethau am y berthynas ag Ewrop wedi Brexit.
"Rydyn ni wedi bod yn dadlau'r achos dros fforwm fel hwn ers sbel ac rydym yn croesawu'r datblygiad," meddai.
Mae'r fforwm newydd wedi'i gadeirio gan weinidog Brexit Llywodraeth y DU, Robin Walker a'r gweinidog cyfansoddiadol, Chloe Smith.
Fe wnaeth Llywodraeth yr Alban anfon eu hysgrifennydd Brexit, Mike Russell a'u gweinidog materion cyfreithiol, Annabelle Ewing i'r cyfarfod ddydd Iau, gyda Ms Evans yn mynychu ar ran Llywodraeth Cymru.
Dywedodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas ei fod yn "croesawu" sefydlu'r fforwm ond fod angen holi beth fyddai'n digwydd pe nai bai'r pedair llywodraeth yn cytuno.
"Dyna pam mae Plaid Cymru'n credu y dylai'r pedair gwlad weithredu'n hafal, gan weithio gyda'n gilydd mewn modd aeddfed i gyrraedd tir cyffredin, yn hytrach na chael y tair gwlad ddatganoledig yn cyfarfod â San Steffan i ofyn a yw eu pryderon nhw'n cael eu hystyried," meddai.
"Mae'n siomedig fod yr ysgrifennydd cabinet â chyfrifoldeb dros faterion Ewropeaidd, Mark Drakeford ddim wedi'i benodi gan Lywodraeth Cymru i'r fforwm yma.
"Mae'n codi'r cwestiwn a yw Llywodraeth Cymru'n credu y bydd hwn yn unrhyw beth mwy na siop siarad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2018
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2018