Scarlets yn paratoi i amddiffyn tlws cynghrair y Pro14
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n ddiwrnod tyngedfennol i ranbarth y Scarlets, wrth iddyn nhw geisio amddiffyn tlws cynghrair y Pro14 yn erbyn Leinster yn Nulyn.
Bydd y rownd derfynol yn gweld deiliaid y gynghrair yn herio pencampwyr newydd prif gwpan Ewrop.
Fe wnaeth y Scarlets drechu'r Cheetahs yn rownd y chwarteri a Glasgow yn y rownd gynderfynol i gyrraedd y ffeinal yn Stadiwm Aviva.
Bydd y Cymry'n ceisio ailadrodd eu llwyddiant y llynedd, pan wnaethon nhw drechu Munster o 46-22 i ennill y gynghrair - y Pro12 bryd hynny.
Halfpenny'n dychwelyd
Daeth newyddion da i gefnogwyr y Scarlets ddydd Gwener, gyda chyhoeddiad y bydd y cefnwr Leigh Halfpenny yn holliach i ddechrau yn Stadiwm Aviva.
Mae hynny'n golygu bod Johnny McNicholl yn symud i'r asgell, gyda Tom Prydie yn dechrau ar y fainc.
Roedd hi wedi dod i'r amlwg yn ystod yr wythnos na fyddai'r wythwr John Barclay ar gael oherwydd anaf, gan olygu mai'r fuddugoliaeth yn Glasgow oedd ei gêm olaf i'r rhanbarth.
Mae hynny'n golygu bod Tadhg Beirne yn dechrau fel wythwr yn ei gêm olaf yntau i'r Scarlets, gyda Lewis Rawlins yn cymryd ei le yn yr ail-reng.
Mae Leinster wedi cael hwb hefyd o gael gwybod y bydd maswr y Llewod, Johnny Sexton, yn dychwelyd ar ôl colli'r fuddugoliaeth yn erbyn Munster yn y rownd gynderfynol.
Mae Rob Kearney a Dan Leavy hefyd yn ôl yn y tîm, ond ni fydd canolwr Iwerddon, Robbie Henshaw ar gael oherwydd anaf i'w ben-glin.
'Angen perfformio'n well'
Fis yn unig yn ôl, yn yr un stadiwm, cafodd y Scarlets eu trechu o 38-16 gan Leinster yn rownd gynderfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop.
Mae'r prif hyfforddwr, Wayne Pivac yn dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw fod yn llawer gwell i'w trechu y tro yma.
"Roedden nhw'n llawer gwell na ni bryd hynny," meddai.
"Mae'n rhaid i ni fod yn fwy corfforol - roedden ni'n brin o hynny yn y rownd gynderfynol - ond fe fyddai wedi synnu os na wnawn ni berfformio'n well y tro yma.
"Mae hi'n her enfawr, ond yn gêm wych. Pencampwyr y llynedd yn erbyn enillwyr Cwpan Pencampwyr Ewrop."
Ond fe gafodd paratoadau'r Scarlets eu heffeithio'r wythnos yma oherwydd llosgiadau gafodd eu dioddef gan eu chwaraewyr yn y fuddugoliaeth yn Stadiwm Scotstoun nos Wener diwethaf.
Ni wnaethon nhw hyfforddi ddydd Llun oherwydd yr anafiadau, a doedd rhai o'r chwaraewyr ddim yn ôl yn hyfforddi nes dydd Mercher.
Tîm y Scarlets
L Halfpenny; J McNicholl, S Williams, H Parkes, S Evans; R Patchell, G Davies; R Evans, K Owens (c), S Lee, L Rawlins, S Cummins, A Shingler, J Davies, T Beirne.
Eilyddion: R Elias, W Jones, W Kruger, D Bulbring, W Boyde, J Evans, D Jones, T Prydie.
Tîm Leinster
R Kearney; J Larmour, G Ringrose, I Nacewa (c), J Lowe; J Sexton, L McGrath; C Healy, S Cronin, T Furlong; D Toner, J Ryan; R Ruddock, D Leavy, J Conan.
Eilyddion: J Tracey, J McGrath, A Porter, S Fardy, J Murphy, N McCarthy, J Carberry, R O'Loughlin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd22 Mai 2018
- Cyhoeddwyd22 Mai 2018